Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am wyntoedd o hyd at 65 mya yr awr ar yr arfordir (llun: PA)
Er bod yr haul yn tywynnu mewn llawer ardal heddiw, diflas iawn yw rhagolygon y tywydd am weddill penwythnos y Pasg.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o dywydd garw ar gyfer Cymru a’r rhan fwyaf o Loegr, wrth i wyntoedd cryf a glaw trwm gael ei ddarogan o yfory ymlaen.

“Mae system o wasgedd isel yn symud drwodd, ac mae hynny am ddod â glaw trwm a rhai gwyntoedd cryf iawn ar adegau,” meddai Sophie Yeomans o’r Swyddfa Dywydd.

“Fe fydd yfory’n ddiwrnod garw gyda gwyntoedd o 55 milltir yr awr mewn rhai ardaloedd, a fydd yn codi i 65 mya ar yr arfordir.

“Fe fydd dydd Sul y Pasg yn oleuach, gyda rhai ysbeidiau heulog, ond fe fydd y cawodydd yn parhau.

“Fe all fod cenllysg a tharanau mewn rhai lleoedd, ac mae disgwyl i’r gwyntoedd cryf barhau tan ddydd Llun.”