Mae pobl Seland Newydd wedi pleidleisio o 57% i 43% dros ddal gafael ar eu baner bresennol sy’n cynnwys jac yr undeb arni.

Roedd mwy na 2 filiwn wedi pleidleisio mewn refferendwm i ddewis y faner bresennol neu faner newydd ac arni lun rhedynnen arian.

Roedd y faner bresennol, sydd wedi cael ei defnyddio ers 1902, yn cael ei gweld gan rai fel relic o orffennol trefedigaethol y wlad ac yn rhy debyg i faner Awstralia.

Fodd bynnag ni lwyddodd y faner newydd, a oedd wedi cael ei ddewis o blith 10,000 o ddyluniadau gan y cyhoedd, i ennill y momentwm angenrheidiol. Roedd rhai pobl hefyd yn bryderus am y gost a fyddai’n gysylltiedig â newid y faner.


Y faner newydd a gafodd ei gwrthod (llun: PA)