Iain Duncan Smith - ymgyrchydd dros y difreintiedig? (leun o wefan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol)
Hefin Jones yn edrych yn ôl ar yr wythnos a aeth heibio …

Er Mwyn y Bobl

‘Pe byddai’r cyhoedd yn gweld y wybodaeth hon byddai’n debygol o roi’r cwmni mewn sefyllfa o anfantais masnachol mewn marchnad sy’n cael ei chydnabod fel un cystadleuol’ atebodd Llywodraeth Cymru i gais rhyddid gwybodaeth yn holi oedd cymal i adennill rhywfaint o’r £31m roddwyd i Pinewood yn 2014 petaent yn gwerthu a mynd. ‘Byddai hefyd yn debygol o roi mantais fasnachol i gystadleuwyr posibl, yn ogystal â pheryglu gallu y cwmni i gael contractau posibl yn y dyfodol’ egluront ymhellach, popeth yn dod yn gliriach. ‘Wrth gasglu felly, rwy’n credu y byddai o fwy o fudd i’r cyhoedd pe byddem yn cadw’r wybodaeth hon yn ôl’. Wel, rhaid wastad meddwl am y cyhoedd.

Methu Dioddef Rhagor

Disodlodd dyrnau a bonllef Iain Duncan Smith i doriadau budd-daliadau 2015 ymdrech Marco Tardelli yn ’82 fel y dathliad mwyaf brwd erioed. Felly pwy fyddai’n amau ei air pan ddywedodd wrth Andrew Marr mai ei bryder am y difreintiedig oedd y rheswm yr oedd yn ei swydd, a’i fod wedi teimlo’n unig mewn cabinet mor greulon.

Nawn Nhw’m Aros yn Llonydd

Nid hawdd cadw llygad ar blant. £11,583 mae Simon Danczuk am ei dalu’n ôl am gamgymryd fod ei epil yn byw’n Llundain hefo fo, a hwythau yn Rochdale. Mae hefyd yn falch i gael dychwelyd y £96.50 hawliodd ar gyfer y gost o barcio tra ar ei wyliau’n Sbaen, darn drud o darmac waeth pwy sy’n talu. Ond nid mor ddrud a’i blant chwim. Mae’n rhaid fod cof ei gyn-wraig yn pallu wrth iddi ddatgan i’r Rochdale News “The kids have never stayed with their father in London. I don’t know when he last saw them it’s been that long – many years.”

Dyfod yr Amser, Dyfod y Dyn

Uchel iawn ei barch oedd Tony Abbott fel prif weinidog Awstralia, felly da gweld ei ailblymio i bwll nofio glân gwleidyddiaeth a’i benodi’n ymgynghorwr i Arlywydd yr Iwcrain newydd, hapus, i wasgaru perlau doeth i Poroshenko o safon ‘Jesus knew that there was a place for everything and it’s not necessarily everyone’s place to come to Australia‘. Colled Canberra yw cynydd Kiev.

Cestyll Tywod

Tlawd ei olwg yw’r cwt heb ei beintio sydd ar ocsiwn am £85,000, ond maent yn ffyddiog yr aiff am bris uwch. Cwt yn lle? Abersoch wrth gwrs. Lle mae’r ocsiwn? Llundain wrth gwrs. Er, y tywod, yn cynnwys y cwt ar ei ben, sydd ar werth yn swyddogol. Pwy oedd y cyntaf i feddianu’r tywod tybed? A phryd? Ond, cyn i chi godi eich bys, mae rheolau. ‘Connection to services including electricity, water and drainage is prohibited. Sleeping overnight is not allowed.. Viewing is by external on site inspection with caution’.

Codwch Wydryn

Nodwch y ddyddiad. Bydd eich tafarn ar agor yn hwyrach ar Fehefin 10 a 11 i ddathlu penblwydd Elizabeth. Felly dathlwch, blebs.

Buon Appetito

‘O bizza i pesdy’ llefarodd Rhodri Owen ar Heno ar drothwy gem Yr Eidal, gan fod pasta’n air Saesneg a pharch yw ei yngan felly.

Wastad Un

Un ymateb diangen i ddatganiad Ryan Giggs y bydd pawb eisiau osgoi Cymru yn yr Ewros oedd ‘Os oes rhywun yn deall rhywbeth am osgoi Cymru yna Giggs yw hwnnw’.