Chris Coleman (llun: CBDC)
Dywed rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman, fod y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon neithiwr wedi bod yn brofiad gwerthfawr i’r tîm.

Cyfartal 1-1 oedd y sgôr yn y gêm gyfeillgar wrth i Gymru baratoi ar gyfer rowndiau terfynol pencampwriaethau Ewro 2016 yn Ffrainc.

Cael a chael oedd hi i osgoi colli ar ôl i Craig Cathcart sgorio dros Ogledd Iwerddon ar yr awr, cyn i Simon Church sgorio mewn cic o’r smotyn ar y funud olaf.

“Roedd yn bwysig ein bod ni wedi llwyddo i beidio â cholli, ac fe gawson ni rywbeth o’r gêm,” meddai Chris Coleman.

“Yn bwysicach fyth, cafodd un neu ddau o’r bechgyn fwy o brofiad a blas o’r twrnmaent, sy’n cryhau’r grŵp sydd gennym ar gyfer yr haf.”

Dim Bale na Ramsey

Gyda Chymru’n gorfod chwarae heb Gareth Bale ac Aaron Ramsey neithiwr, fe wnaeth Coleman ddewis Sam Vokes a Tom Lawrence yn eu lle, cyn dod â Church o’r fainc.

“Y cwestiynau cyntaf y mae pobl yn eu gofyn imi ym mhob cynhadledd i’r wasg yw rhai am Gareth Bale ac Aaron Ramsey, a dw i’n deall hynny,” meddai Coleman.

“O’m safbwynt i, dyw Sam Vokes na Simon Church byth yn methu â bod yma.

“Maen nhw bob amser yn gwneud eu gorau ac maen nhw’n chwarae’n dda. Mae gennym ddewisiadau da ac mae hynny’n galonogol.

“Fe wnaethon ni weithio’n galed, fe gawson ni hi’n anodd torri Gogledd Iwerddon i lawr – roedden nhw’n drefnus, yn gryf ac yn brofiadol.”