*Gêm gartref olaf Cymru cyn Ewro 2016
*Gogledd Iwerddon hefyd wedi cyrraedd y gystadleuaeth yn Ffrainc
*Cathcart yn rhwydo wedi awr o chwarae
*Tîm Cymru: Hennessey, Gunter, Chester, Williams, Matthews, Vaughan, Ledley, Cotterill, G Williams, Lawrence, Vokes
21.36: Y chwiban olaf, a chanlyniad digon teg yn y diwedd. Yr un tim wedi gwneud digon i haeddu ennill.
21.32: GOL I GYMRU! Wel, mae hynny ’di deffro pobol! Church yn cael ei faglu, ac yna’n sgorio’r gic o’r smotyn ei hun! Pedair munud o amser ychwanegol.
21.30: Torf o 21,855 yma heno, ond mae’r nifer yna’n disgyn fel dw i’n teipio wrth i rai ddechrau gadael er mwyn curo’r traffig.
88 munud ar y cloc … A penalti!
21.28: Church! Rhydd yn y cwrt cosbi, ond y bel yn adlamu ’chydig rhy uchel iddo allu’i phenio hi! Ond dw i’n meddwl fod fflag y llumanwr i fyny beth bynnag.
21.25: Llai na 10 munud i fynd, ac mae Hen Wlad Fy Nhadau yn atseinio o’r Canton am y tro cyntaf mewn gwirionedd – rhannau eraill y stadiwm yn fwy cyndyn i ymuno yn y canu. Mae hi dal yn glawio yma.
Gogledd Iwerddon bellach yn eistedd nol a gadael i Gymru ymosod, wedyn ceisio gwrthymosod.
21.22: Wrth mod i’n dweud hynny, pas fach wych gan Jonny Williams yn creu cyfle i Church, sy’n mynd lawr yn y cwrt cosbi, ond dim trosedd.
Wedyn cic gornel i Gymru yn dod i ddim byd.
21.20: Tafliad olaf y dis o ran eilyddion i Gymru beth bynnag, wrth i Simon Church gymryd lle Sam Vokes.
Mae Joe Allen wedi dechrau gwneud gwahaniaeth yn barod yng nghanol cae, ond Cymru dal yn ei chael hi’n anodd creu cyfleoedd. 78 munud ar y cloc.
21.14: Mwy o swn gan y dorf rwan wrth iddyn nhw geisio annog Cymru, ond y Gwyddelod hefyd yn uchel eu llais bellach.
Lot o chwaraewyr yn cerdded o gwmpas ar hyn o bryd, dim arwydd eto bod y tempo di cyflymu wrth i’r crysau cochion chwilio am gol.
Joe Allen, neu’r Pirlo Penfro, yn dod i’r cae rwan yn lle David Vaughan – un Cymro Cymraeg am un arall.
21.06: Rheolwr Cymru yn ymateb yn syth, gan ddod a Jonny Williams a Lloyd Isgrove ymlaen fel eilyddion am Tom Lawrence a George Williams.
Cap cyntaf arall felly, gydag Isgrove yn ymuno a Danny Ward ar y cae fel chwaraewyr rhyngwladol newydd.
21.02: Gol i Ogledd Iwerddon! Craig Cathcart yn cael ei droed iddi wedi i’r bel fownsio’n rhydd o gic gornel. Yr ymwelwyr ar y blaen ar ol 60 munud!
20.54: Gogledd Iwerddon sy’n dechrau’r ail hanner hefo ’chydig mwy o sbarc, gan orfodi Danny Ward i wneud ei arbediad cyntaf wedi dim ond pedwar munud o’r ail hanner.
20.48: Dechrau’r ail hanner. Dau eilydd i Gymru, Andrew Crofts yn lle Joe Ledley, a chap cyntaf i Danny Ward yn lle Wayne Hennessey!
Jamie Ward hefyd wedi cymryd lle cyn-ymosodwr Casnewydd, Connor Washington, i Ogledd Iwerddon.
20.32: Hanner amser. Digon o chwarae taclus gan y ddau dim unwaith wnaethon nhw setlo, Cymru’n cael y gorau o’r hanner cyfleoedd, ond dim syndod mawr ei bod hi’n ddi-sgor ar yr egwyl.
20.20: Ymddiheuriadau am y diffyg diweddaru – cyfuniad o broblemau technegol a dim lot yn digwydd!
Ond mae gan Gymru gic gornel… a Vokes sy’n ei phenio hi heibio’r postyn!
20.09: Cyfle i David Cotterill o gic rydd, ond y golwr McGovern yn arbed! O’r gic gornel, Cotterill yn cael cyfle eto ond yn taro hi dros y trawst.
20.02: Dim lot i’w adrodd a dweud y gwir. Lot o beli hir i fyny, neb wir yn cael gafael arni eto.
Cymru’n chwarae hi fyny at y cwrt cosbi, ond y bas olaf yn methu a chanfod dyn.
19.51: Cymru yn pwyso ar y dechrau, George Williams yn fflachio croesiad beryglus ar draws y cwrt cosbi, yna Sam Vokes yn methu peniad.
19.47: Y gic gyntaf!
19.46: Anthemau wedi bod (gydag ychydig o fwio ar ddechrau un Gogledd Iwerddon, God Save The Queen).
Yna munud o dawelwch i gofio am drychineb Brwsel.
19.29: Roedd sôn y byddai tipyn mwy o fesurau diogelwch o gwmpas y gêm heno, yn dilyn yr ymosodiadau yng Ngwlad Belg yr wythnos hon, a rhybudd ar gefnogwyr i ddod i’r gêm yn gynt. Hyd yn hyn, heb weld llawer o arwyddion o’r un o’r pethau hynny.
Mae disgwyl torf weddol iach o rhyw 25,000 yma heno fodd bynnag – nid y stadiwm lawn fyddai’r chwaraewyr wedi’i obeithio amdano, ond digon parchus am gêm gyfeillgar ar nos Iau glawog.
19.25: Dewisiadau diddorol gan Chris Coleman felly – Vaughan yn lle Allen, a Taylor ar y fainc gyda Gunter a Matthews yn gefnwyr dde a chwith (roedd anaf gan Taylor wythnos diwethaf).
Cyfle hefyd i weld beth sydd gan George Williams i’w gynnig yn safle’r chwaraewr canol cae ymosodol, ac fe allwn ni ddisgwyl Cotterill i anelu sawl croesiad tuag at ben Vokes yn ystod y gêm.
19.05: Tîm Gogledd Iwerddon: McGovern, McLaughlin, McAuley, Evans, McNair, Cathcart, Davis, Dallas, Norwood, Lafferty, Washington
19.04: Tîm Cymru: Hennessey, Gunter, Chester, Williams, Matthews, Vaughan, Ledley, Cotterill, G Williams, Lawrence, Vokes
19.00: Noswaith dda, a chroeso i flog byw Golwg360 ar noson wlyb ac oer yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Fe ddown ni â’r ddau dîm i chi yn y man, wrth i Gymru baratoi i herio Gogledd Iwerddon yn eu gêm gartref olaf cyn Ewro 2016.