Y ffrwydrad ym maes awyr Brwsel Llun: Sky News
Mae dau ffrwydrad wedi bod ym maes awyr Brwsel bore ma gyda lluniau fideo yn dangos mwg yn codi o un o’r adeiladau a ffenestri wedi chwalu.

Mae arbenigwyr gwrth-frawychiaeth wedi cael eu hanfon yno ac mae adroddiadau bod o leiaf un person wedi marw, a nifer o bobl wedi’u hanafu.

“Mae un person wedi marw ac fe allai nifer o rai eraill fod wedi’u lladd hefyd,” meddai swyddog yr heddlu.

Mae hediadau wedi cael eu canslo ac awyrennau’n cael eu dargyfeirio. Mae  trafnidiaeth hefyd yn cael ei atal rhag teithio i’r maes awyr ac mae teithwyr yn cael eu cynghori i gadw draw o’r safle.

Yn ôl adroddiadau fe ddigwyddodd y ffrwydrad ger desg American Airlines yn y neuadd ymadael ac mae rhai yn adrodd eu bod wedi clywed ergydion yn cael eu tanio cyn y ffrwydrad.

Mae ffrwydrad arall hefyd wedi bod yn un o orsafoedd Metro yn ardal Maelbeek yn y ddinas. Does dim rhagor o fanylion am y digwyddiad yno ar hyn o bryd.

Daw’r digwyddiad wrth i brifddinas Gwlad Belg fod ar ei lefel uchaf o ddiogelwch ar ôl i Salah Abdeslam, sy’n cael ei amau o fod yn un o ymosodwyr Paris, gael ei arestio yn y ddinas wythnos ddiwethaf.

Cafodd Abdeslam, sy’n cael ei amau o gynllwynio’r ymosodiadau ym Mharis pan gafodd 130 o bobl eu lladd, ei arestio ddydd Gwener ar ôl i’r heddlu fod yn chwilio amdano ers pedwar mis.

Ond mae’r awdurdodau yng  Ngwlad Belg yn pryderu bod ganddo gynorthwywyr sydd yn dal ar ffo ac y gallen nhw beri bygythiad.

Rhagor i ddilyn…