Mae Heddlu De Cymru wedi dweud na fydd yn ymchwilio ymhellach i achos honedig o werthu babi chwe wythnos oed am filoedd o bunnoedd yng Nghaerdydd.

Cafodd tri pherson eu harestio ym mis Hydref 2015 – cwpl yn eu hugeiniau o ardal Tredelerch yn y brif ddinas a mam y babi o ddinas Zamora, Sbaen.

Dywedodd yr heddlu bod y tri bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ac nad oedd unrhyw droseddau wedi cael eu cyflawni yn y DU.

“Yn dilyn ymchwiliad trylwyr gan yr heddlu, oedd yn cynnwys y gwasanaethau cymdeithasol ac awdurdodau Sbaen, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ystyried yr holl dystiolaeth ac wedi penderfynu nad oes unrhyw droseddau wedi cael eu cyflawni yn y DU,” meddai’r Ditectif Gwnstabl Vince Jones.