Yn dilyn ymchwiliad i gyfres o ymosodiadau ar lwybr cyhoeddus yng Nghaerdydd, mae bachgen 15 oed wedi cael ei arestio.

Mae’r bachgen wedi cael ei gyhuddo o bum trosedd i gyd gan gynnwys dau achos o ymosod yn rhywiol.

Mae bellach wedi rhyddhau ar fechnïaeth amodol tan 29 Mawrth, pan fydd yn ymddangos gerbron Llys Ieuenctid Caerdydd.

Digwyddodd y troseddau honedig ar lwybr yn ardal Llaneirwg yn y brifddinas.

Ni fydd unrhyw gamau pellach yn erbyn llanc 17 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad a’r digwyddiadau.

Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i’w ffonio ar 101 neu drwy Daclo’r Taclau yn anhysbys ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r rhif *76891.