Mae un person wedi marw ac 11 wedi’u hanafu yn dilyn gwrthdrawiad rhwng bws a cherbyd 4×4 yn yr Alban.

Bu farw un person yn y fan a’r lle a chafodd dau berson eu cludo i’r ysbyty yn Glasgow.

Mae naw o bobl eraill wedi cael triniaeth ar y safle yn dilyn y ddamwain ar yr A78 ger Ardrossan yng ngogledd Swydd Aeron tua 2.15 prynhawn dydd Llun.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.