Mae disgwyl i bolisi ffoaduriaid Angela Merkel weithio yn ei herbyn
Mae disgwyl i genedlaetholwyr yr Almaen elwa ar agwedd ryddfrydol y Canghellor Angela Merkel wrth i dair talaith gynnal etholiadau ddydd Sul.

Dyma’r etholiadau cyntaf ers i nifer fawr o ffoaduriaid gael croeso gan yr Almaen.

Mae oddeutu 12.7 miliwn o bobol yn gymwys i bleidleisio yn nhaleithiau Baden-Wuerttemberg a’r Rheinland-Pfalz yn ne-orllewin y wlad a Sachsen-Anhalt yn y dwyrain.

Mae disgwyl i blaid y Democratiaid Cristnogol, sef plaid Merkel, a’r Democratiaid Sosialaidd ddioddef.

Gallai Plaid Amgen yr Almaen, sy’n gwrthwynebu polisïau Merkel ar ffoaduriaid ennill cymaint â 19% o’r bleidlais yn Sachsen-Anhalt.

Dydy’r un o’r pleidiau eraill ddim yn fodlon clymbleidio â’r blaid honno, ond fe allen nhw fod yn allweddol i unrhyw benderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan y pleidiau eraill.

Merkel

Cafodd bron i 1.1 miliwn o ffoaduriaid eu cofrestru yn yr Almaen y llynedd, wrth i Angela Merkel fynnu y gallai’r wlad ymdopi â’r mewnlifiad.

Tra bod ei llywodraeth wedi cyflwyno mesurau llym ar loches, mae Merkel yn parhau i geisio ateb Ewropeaidd i’r sefyllfa, gan anwybyddu’r galw am osod cap ar y nifer o ffoaduriaid all fynd i’r Almaen.

Mae plaid Merkel mewn grym yn Sachsen-Anhalt, ond mae eu gobeithion o gryfhau eu grym yn dechrau pylu.

Roedd ei phlaid hefyd mewn grym yn Baden-Wuerttemberg tan 2011 pan gollon nhw i glymblaid werdd.

Yn y Rheinland-Pfalz, gallai’r Democratiaid Cristnogol gipio grym oddi ar y Democratiaid Sosialaidd mewn pleidlais agos.

Fe fydd etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal yn 2017.