Bydd un o'r gwasanaethau'n cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Dunblane
Fe fydd gwasanaethau eglwysig yn yr Alban ddydd Sul i nodi union 20 mlynedd ers y gyflafan yn ysgol gynradd Dunblane, pan gafodd 16 o blant a’u hathrawes eu saethu’n farw.

Cafodd y plant pump a chwech oed a’u hathrawes Gwen Mayor eu llofruddio gan Thomas Hamilton ar ôl iddo ddechrau saethu atyn nhw yng nghampfa’r ysgol yn Swydd Stirling ar Fawrth 13, 1996.

Arweiniodd y gyflafan at gyflwyno mesurau llym ar gyfer dryllau.

Ymhlith y rhai fydd yn talu teyrnged i’r 17 mae’r Parchedig Colin Renwick, y gweinidog yn Eglwys Gadeiriol Dunblane, lle mae cofeb i’r meirw.

Dywedodd: “Fe fydd digwyddiadau trasig Mawrth 13, 1996 yn cael eu cofio am amser hir yn Dunblane ac ni fu diwrnod pan na chafwyd coffa o’r rhai a gafodd eu colli, eu hanafu na’r rhai sy’n galaru ac a ddioddefodd drawma.

“Ers y diwrnod hwnnw, mae pobol wedi gwerthfawrogi cefnogaeth a gweddïau eraill drwy’r byd, ond hefyd wedi gwerthfawrogi cael llonydd i alaru ac ail-adeiladu’n breifat a gydag urddas, gyda chyn lleied o graffu â phosib o du’r cyfryngau.

“Yn ystod yr amryw wasanaethau hyn, fe fydd cyfle i’r rheiny sy’n dod ynghyd i gofio a gweddïo am nerth a heddwch parhaus.”

Fe fydd yr Eglwys Gatholig hefyd yn cynnal gwasanaethau i nodi’r diwrnod.

Mae Heddlu’r Alban hefyd wedi talu teyrnged i’r rhai fu farw ac a gafodd eu heffeithio gan y gyflafan.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Roedd y digwyddiad ofnadwy hwn yn gysgod dros y dref a ddydd Sul, fe fyddwn yn dod ynghyd i gofio ac i ddathlu’r gymuned fywiog sydd wedi goresgyn y fath drasiedi.”