Cafodd o leiaf 47 o bobl eu lladd wrth i hunan-fomiwr yrru lorri yn llawn ffrwydron i safle gwirio cerbydau ar ffordd i’r de o Baghdad.
Er nad oes neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hyd yma, mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn aml yn defnyddio bomiau car a hunan-fomwyr i dargedu mannau cyhoeddus ac adeiladau’r llywodraeth.
Cafodd degau eraill eu hanafu yn y ffrwydrad a ddigwyddodd yn fuan wedi hanner dydd ger mynedfa i ddinas Hillah, tua 60 milltir i’r de o Baghdad.
Mae Irac wedi dioddef trais cynyddol dros y mis diwethaf, gydag ymosodiadau gan hunan-fomwyr wedi lladd mwy na 170 o bobl yn Baghdad a’r cyffiniau. Y Wladwriaeth Islamaidd, sy’n rheoli rhannau helaeth o Irac a Syria, sydd wedi hawlio’r cyfrifoldeb am yr holl ymosodiadau hyn.
Yn ôl ffigurau’r Cenhedloedd Unedig, fe fu farw o leiaf 670 o bobl Irac y mis diwethaf yn sgil y trais, gyda dau draean o’r rhain yn sifiliaid.