Leanne Wood (o wefan Plaid Cymru)
Fe fyddai’n rhaid i’r Blaid Lafur roi’r gorau i un o’i chynlluniau allweddol cyn y byddai Plaid Cymru’n ystyried cydweithio â hi yn y Cynulliad ar ôl yr etholiad.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, na fyddai unrhyw gytundeb yn bosibl heb i Lafur gefnu ar ei bwriad i adeiladu darn newydd o draffordd yr M4 y tu allan i Gasnewydd.
Byddai’r cynlluniau’n golygu gwario £1 biliwn ar chwe milltir o draffordd newydd i’r de o’r ddinas, a dyma fyddai’r prosiect cyfalaf mwyaf i Lywodraeth Cymru ers sefydlu’r Cynulliad.
Mewn cyfweliad ar raglen The Politics Show ar BBC1 y bore yma, dywedodd Leanne Wood na ellid cyfiawnhau gwario swm mor anferthol ar un rhan fach o Gymru.
“Mae’n rhaid inni ledaenu cyfoeth a ffyniant yn deg drwy Gymru gyfan, a byddai’r cynllun yma’n gwbl annerbyniol inni,” meddai.
“Fydden ni ddim yn cefnogi unrhyw lywodraeth a fyddai am weithredu’r cynllun,” ychwanegodd, gan gadarnhau bod hwn yn amod sylfaenol na fyddai’r Blaid yn fodlon cyfaddawdu arno.