Mae’r heddlu wedi cyhuddo dyn o geisio llofruddio ac o geisio dinistrio plentyn mewn cysylltiad ag ymosodiad ar fam feichiog yn nhref Sutton Coldfield brynhawn Gwener.

Mae’r ddynes 40 oed bellach mewn cyflwr sefydlog ac mae ei merch fach newydd-anedig yn dod yn ei blaen yn dda, yn ôl heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Cafodd ei rhuthro i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr, a sicrhawyd genedigaeth ddiogel i’w babi.

Mae ei theulu wedi diolch i’r bobl a’i helpodd brynhawn Gwener trwy alw’r heddlu a cheisio’i hamddiffyn rhag yr ymosodwr.

Mae Babur Karamat Raja, 41 oed o Sutton Coldfield, wedi cael ei gyhuddo hefyd o ymosod ac o fod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Fe fydd yn ymddangos gerbron llys ynadon Birmingham yfory.