Mae gwrthdaro rhwng ffoaduriaid a’r heddlu ar y ffin rhwng Gwlad Groeg a Macedonia ar ôl i rai cannoedd o fewnfudwyr fwrw giât i lawr yn dilyn oedi hir i gael mynediad i Macedonia.
Mae’r heddlu bellach wedi tanio nwy dagrau at y protestwyr oedd yn bloeddio, “Agorwch y ffin” ac yn taflu cerrig at yr heddlu ym Macedonia.
Does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi cael ei arestio neu wedi’u hanafu.
Yn ôl yr heddlu, fe wnaeth 500 o bobol wthio eu ffordd heibio’r heddlu yng Ngwlad Groeg i gyrraedd y glwyd, sy’n cael ei defnyddio ar gyfer trenau.
Derbyn nifer fechan o bobol bob dydd
Mae tua 6,500 o bobol yn sownd ar ochr Gwlad Groeg ar y ffin, ac mae rhai wedi bod yna ers wyth diwrnod heb lawer o fwyd na lloches, gan fod Macedonia ond yn derbyn nifer fechan o bobol bob dydd.
Cafodd 50 o bobol fynediad i’r wlad ychydig cyn canol dydd heddiw, ar ôl i’r ffin fod ar gau am wyth awr. Cafodd ei gau eto ar ôl y gwrthdaro.
Mae Macedonia wedi dweud y bydd yn gadael yr un faint o bobol i’w gwlad ag y mae Serbia, sy’n golygu bod dros 22,000 o bobol yn sownd yng Ngwlad Groeg a channoedd yn rhagor yn cyrraedd bob dydd.