Mae pennaeth cwmni Trinity Mirror wedi dweud y gallai papur newydd The New Day ddechrau gwneud elw erbyn diwedd y flwyddyn.

Cafodd rhifyn cyntaf y papur dyddiol newydd ei chyhoeddi ddydd Llun, ac ar hyn o bryd mae ar gael am ddim mewn 40,000 o siopau gwahanol.

Y bwriad yw codi 25c y copi wedyn am gyfnod o bythefnos, cyn gwerthu’r papur newydd 40 tudalen am 50c y copi wedi hynny.

The New Day yw’r papur newydd annibynnol cyntaf ar draws Prydain i gael ei lansio ers 30 mlynedd.

‘Lle i brint’

Mynnodd prif weithredwr Trinity Mirror, y cwmni sydd yn cyhoeddi The New Day, bod lle i’r papur newydd yn y farchnad er gwaethaf tueddiad pobol i ddarllen mwy o’u newyddion ar-lein.

“Mae dros filiwn o bobol wedi stopio prynu papurau newydd yn y ddwy flynedd ddiwethaf ond rydyn ni’n credu bod modd temtio nifer fawr ohonyn nhw nôl gyda’r cynnyrch iawn,” meddai Simon Fox.

“Mae adfywio print yn rhan greiddiol o’n strategaeth ochr yn ochr â thrawsnewid digidol a does dim rhaid dewis rhwng y ddau – mae papurau newydd yn gallu byw yn yr oes ddigidol os ydyn nhw wedi cael eu cynllunio i gynnig rhywbeth gwahanol.”

‘Niwtral’

Daw lansiad y papur newydd ychydig wythnosau yn unig ar ôl i’r Independent a’r Independent on Sunday gyhoeddi eu bod nhw’n dod i ben, gyda’u cynnwys ar gael ar-lein yn unig o hyn ymlaen.

Golygydd The New Day fydd Alison Phillips, golygydd penwythnosau’r Mirror.

Dywedodd Trinity Mirror, sydd hefyd yn berchen ar sawl papur rhanbarthol gan gynnwys y Western Mail a’r Daily Post, y byddai The New Day yn “wleidyddol niwtral” ac yn dangos “ymdriniaeth bositif a gobeithiol” i straeon.