Y Preifat Cheryl James
Cafodd milwyr benywaidd ym marics Deepcut orchymyn i “gau’n cegau” ar ôl i gorff milwr ifanc gael ei ddarganfod, clywodd cwest heddiw.

Cafwyd hyd i’r Preifat Cheryl James, 18, o Langollen gyda bwled yn ei phen ym mis Tachwedd 1995 – roedd hi’n un o bedwar o filwyr ifanc ia fu farw yng nghanolfan hyfforddiant y fyddin yn Surrey dros gyfnod o saith mlynedd.

Dywedodd Claire Barnett bod grŵp o ferched wedi dod at ei gilydd yn dilyn marwolaeth y Preifat James er mwyn cysuro ei gilydd. Daeth y Sarjant  Andrew Gavaghan i’r ystafell “gan edrych fel petai dim wedi digwydd.”

“Fe ofynnodd, ‘Sut mae pawb? Ydy pawb yn iawn?’ Roeddwn i’n meddwl bod hynny’n beth eitha dwl i’w ddweud ar y pryd,” meddai Claire Barnett.

Mae’r cwest eisoes wedi clywed honiadau bod y Sarjant  Andrew Gavaghan wedi gorchymyn y Preifat James i gael rhyw gyda milwr arall ar y noson cyn ei marwolaeth.

‘Peidiwch â siarad gydag unrhyw un’

Dywedodd Claire Barnett wrth Lys y Crwner yn Woking bod y merched wedi cael eu cynghori i beidio â siarad gyda’r wasg na’r heddlu.

“Daethon ni at ein gilydd tu allan ac fe wnaethon nhw ddweud wrthon ni i ‘gau’n cegau. Peidiwch â siarad gydag unrhyw un.’ Geiriau tebyg i hynny.

“Nid oeddan ni’n cael gadael y gwersyll a doedd neb yn cael dod mewn,” meddai.

Wrth roi tystiolaeth ychwanegodd Claire Barnett, sy’n dweud ei bod wedi cael diagnosis o anhwylder ôl-drawmatig (post-traumatic stress disorder – PTSD), ei bod wedi siarad â’r Preifat James yn ystod y bore cyn ei marwolaeth.

“Roeddwn i’n gallu gweld yn ei llygaid nad oedd rhywbeth yn iawn. Roedd rhywbeth yn bod. Ches i ddim cyfle i bwyso rhagor,” meddai.

Mae’r cwest yn parhau.