Dau bentref wedi'u targedu
Mae lle i gredu mai awyrennau Rwsia oedd yn gyfrifol am dargedu dau bentref yng ngogledd Syria gyda bomiau yn ystod cyrchoedd awyr.

Cafodd yr honiadau eu gwneud gan grwpiau sy’n gwrthwynebu llywodraeth Syria.

Cafodd y cyrchoedd awyr eu cynnal ar ail ddiwrnod cadoediad a gafodd ei drefnu gan Rwsia a’r Unol Daleithiau i geisio sicrhau heddwch wedi pum mlynedd o frwydro yn y wlad.

Gwnaeth y bomiau daro pentrefi Daret Azzeh a Qobtan al-Jabal.