Fe fu 800% yn fwy o achosion o yrru dan ddylanwad cyffuriau yn ystod y 12 mis ers i gyfreithiau newydd gael eu cyflwyno, meddai Adran Drafnidiaeth San Steffan.
Cafodd lefelau newydd eu gosod ar gyfer 17 o gyffuriau presgripsiwn fis Mawrth y llynedd.
Mae cosbau llymach o lawer mewn grym ar gyfer pobol sy’n gyrru dan ddylanwad heroin, cocên a chanabis.
Yn Sir Gaer, cafodd 530 o bobol eu harestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau rhwng mis Mawrth a’r mis diwethaf – dim ond 70 o achosion oedd wedi’u cofnodi drwy gydol 2014.
Mae’r cyfreithiau newydd yn golygu bod modd i blismyn gynnal profion cyffuriau ar ymyl y ffordd, ac mae modd cynnal ail brofion ar gyfer ecstasi, LSD a ketamine yng ngorsaf yr heddlu hyd yn oed os yw gyrrwr yn pasio prawf cyntaf.
Does dim cosb ar gyfer gyrwyr sy’n cymryd cyffuriau presgripsiwn ar ddos sy’n cael ei argymell gan feddyg.
Dros gyfnod y Nadolig, cafodd 1,888 o brofion eu cynnal yng Nghymru a Lloegr, ac fe basiodd 50% yn unig.
Flwyddyn union ers cyflwyno’r cyfreithiau newydd, fe fydd ymgyrch newydd yn cael ei lansio mewn sinemâu, ar y radio ac ar y we i hybu gwerth profion ar ymyl y ffordd.
Mae 88% o bobol a ymatebodd i arolwg yr AA yn cefnogi’r camau newydd sy’n cael eu cymryd gan yr heddlu ar ymyl y ffordd, ac mae’r ffigurau wedi synnu’r mudiad.