Meddygfa wedi terfynu cytundeb yn gynnar
Mae pryderon am wasanaethau sy’n cael eu cynnig gan feddygon teulu yn Wrecsam wedi i un feddygfa benderfynu dod â chytundeb gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ben yn gynnar.
Fe ddaeth i’r amlwg fod meddygon yng Nghanolfan Iechyd Pen y Maes wedi rhoi rhybudd eu bod nhw’n terfynu’r cytundeb ym mis Medi.
Mae’r penderfyniad wedi arwain at bryder am recriwtio meddygon yn yr ardal, a hynny wedi i dair meddygfa yn Sir Ddinbych wneud yr un penderfyniad y llynedd.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwahodd cynrychiolwyr o’r bwrdd iechyd i gyfarfod brys sydd wedi’i alw gan yr ymgyrchydd Andy Atkinson.
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar: “Dyma dystiolaeth bellach o argyfwng recriwtio meddygon teulu yng ngogledd Cymru ac mae’n ymddangos nad oes gan Lywodraeth Lafur Cymru ateb.
“Mae materion difrifol eisoes ynghylch recriwtio yng ngogledd Sir Ddinbych a rhannau o Gonwy, ond bydd y cyhoeddiad hwn yn ychwanegu at bryderon ac mae angen ymateb rhagweithiol gan Lywodraeth Lafur Cymru.
“Ers degawd, mae cynllunio’r gweithlu gan weinidogion Llafur wedi bod yn is na’r safon sy’n ofynnol, ac fe fydd cleifion yn poeni’n arw am y newyddion.”