Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y De wedi llwyddo i reoli tân ar ystad ddiwydiannol ger Aberdâr fore Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 5.15 y bore yn dilyn y tân mewn ffatri yn Hirwaun.

Fe fu diffoddwyr o’r De a’r Canolbarth ar y safle.