Mae’r cyflwynydd radio Tony Blackburn wedi dweud bod y BBC wedi rhoi’r cyfle iddo ymddiswyddo a dychwelyd eto yn y dyfodol, cyn iddo golli ei swydd yn sgil adroddiad i honiadau o droseddau rhyw.
Cafodd Blackburn ei ddiswyddo yn sgil adroddiad gan y Fonesig Janet Smith i honiadau o droseddau rhyw gan weithwyr y Gorfforaeth.
Roedd y BBC yn honni bod cofnod Blackburn o ddigwyddiad oedd wedi arwain at honiadau yn ei erbyn yn mynd yn groes i’r safonau disgwyliedig.
Mae Blackburn wedi cyhuddo’r BBC o’i bardduo, ac mae’n gwadu bod ei gyflogwyr wedi rhoi gwybod iddo am yr honiad yn ei erbyn gan Claire McAlpine yn 1971, er bod y BBC wedi mynnu wrth roi tystiolaeth i’r Fonesig Smith eu bod nhw wedi rhoi gwybod iddo.
Roedd Claire McAlpine, oedd yn ei harddegau ar y pryd, wedi lladd ei hun yn dilyn y digwyddiad honedig.
Mae Blackburn yn bwriadu dwyn achos yn erbyn y BBC, meddai, gan ychwanegu nad oes ganddo “unrhyw beth i guddio”.
Dywedodd ei fod yn difaru na chafodd ymchwiliad ei gynnal yn 1971 er mwyn iddo cael cyfle i brofi nad oedd yn euog o unrhyw drosedd.
Ac fe ddywedodd y byddai’n ystyried dychwelyd i’r BBC eto yn y dyfodol.