B
Manic Street Preachers, Manics, (Llun: gwefan Gwyl Rhif 6)
ydd stiwdio gerddoriaeth ger Trefynwy sydd wedi gweld mawrion fel Queen, Manic Street Preachers ac Oasis yn recordio yno, yn cael sylw ar ffurf arddangosfa gan fyfyrwyr ysgol lleol.

Dan nawdd y Loteri Genedlaethol, bydd 13 o fyfyrwyr chweched dosbarth Ysgol Gyfun Trefynwy yn cysylltu â cherddorion fu’n defnyddio’r stiwdio, gan hel eu straeon mewn arddangosfa o’r enw, ‘From Stables to Studios: The Story of Rockfield, Monmouth & Music’.

Bydd y prosiect yn cynnwys straeon o groesawu Queen wrth iddyn nhw recordio Bohemian Rhapsody ar biano, sy’n dal i gael ei ddefnyddio yno heddiw a’r hanes o ffilmio’r Super Furry Animals yn tanio gynnau y tu allan i’r stiwdio i’w ddefnyddio ar eu trac The Undefeated.

Mae prosiect y grŵp ysgol yn rhan o’u Bagloriaeth Gymreig, a bydd y myfyrwyr hefyd yn siarad â thrigolion lleol, gan hel eu hatgofion o effaith y stiwdio ar y dref.

“Chwarae pŵl gyda sêr roc”

“Er bod Rockfield yn enwog am fod yn un o’r stiwdios recordio mwyaf dylanwadol yng ngwledydd Prydain, ac yn wir y byd, mae’n syndod cyn lleied sy’n cael ei arddangos yn lleol ar hyn o bryd am y perl hwn o Fynwy,” meddai Joanne Davies, sy’n helpu cydlynu’r arddangosfa.

“Er ei bod yn ddyddiau cynnar, rydyn ni wedi cael ein rhyfeddu’n barod gan rai o’r hanesion bach doniol a diddorol sy’n dod i’r golwg, gan gynnwys trigolion lleol sy’n cofio gwerthu esgidiau i sêr roc enwog, neu chwarae pŵl gydag aelodau bandiau yn y tafarnau lleol.

“Dyma’r math o hanesion rydyn ni eisiau dod o hyd iddyn nhw a’u rhannu ag eraill. Hoffwn annog unrhyw un sydd ag unrhyw hanesion neu atgofion am Rockfield i gysylltu!”

Llyfr ymwelwyr Rockfield

Mewn llyfr ymwelwyr dywedodd Ian Brown, o Stone Roses, am y stiwdio, “Rhowch y gwres ymlaen yn amlach ac efallai y dof yn ôl rhyw ddydd.”

Tra bod Liam Gallagher o Oasis, ar y llaw arall, yn amlwg wedi cael ei swyno gan ei leoliad, “Diolch i stiwdio Rockfield am yr amgylchedd dymunol mewn awyrgylch gwledig hyfryd!”

Mae disgwyl i’r arddangosfa gael ei lansio ym mis Ebrill, ac mae modd dysgu rhagor am stiwdio Rockfield ar ei wefan.