Jimmy Savile (William Starkey CCA2.0)
Mae cyn-lywodraethwr y BBC dros Gymru, wedi cydnabod ei fod yn gwybod yn ôl yn yr 1990au fod problemau am ymddygiad y treisiwr, Jimmy Savile.

Fe ddywedodd wrth Radio 4 nad oedd wedi sôn wrth benaethiaid y Gorfforaeth oherwydd diffyg tystiolaeth bendant a’r ofn y byddai’n edrych yn wirion.

Yn ôl y dyn busnes, Syr Roger Jones, a oedd yn Gadeirydd ar ymgyrch Plant mewn Angen ar y pryd, roedd cydweithwyr yn y BBC wedi dangos yn glir pa mor gry’ oedd yr amheuon am y cyflwynydd pop a theledu a oedd wedi cam-drin degau o ferched ifanc yn sgil ei waith.

Roedd wedi holi mewn cyfarfod a oedd pobol am ddefnyddio Jimmy Savile yn yr ymgyrch ac, meddai, “roedd pawb yn gegrwth”.

‘Anaddas’

“Roedd y bobol a oedd yn rhan o’r sefydliad yn meddwl ei fod yn anaddas,” meddai wrth y rhaglen World at One.

Ac er bod ganddo “syniad go lew” o ddrwg weithredoedd y cyflwynydd, doedd e ddim wedi codi’r peth â neb am ei fod yn meddwl byddai’n edrych yn “wirion” heb dystiolaeth.

“Roedd angen tystiolaeth arnaf achos pe bawn yn ei wahardd yn swyddogol o Blant mewn Angen, byddwn wedi edrych yn gwbl wirion (heb dystiolaeth).”

Roedd Roger Jones yn ymateb i adroddiad damniol am fethiant y BBC i ddelio gyda Jimmy Savile a chamdriniwr arall, Stuart Hall.