Map o Syria (o wefan Wikipedia)
Mae bom mewn car wedi ffrwydro ar gyrion tref sy’n cael ei dal gan y llywodraeth yn Syria, gan ladd dau ac anafu llawer mwy.
Fe ddigwyddodd y ffrwydrad o fewn oriau i gadoediad a gafodd ei gytuno rhwng Rwsia a’r Unol Daleithiau.
Nid oes neb wedi hawlio cyfrifoldeb am y bom ar gyrion tref Salamiyeh, ond mae’r Wladwriaeth Islamaidd wedi cyflawni llawer o ffrwydradau o’r fath yn Syria dros yr wythnosau diwethaf.
Nid yw’r cadoediad, a ddaeth i rym am hanner nos neithiwr, yn cynnwys y Wladwriaeth Islamaidd na changen al Qaida yn Syria.
Yn ôl yr adroddiadau diweddaraf mae’r rhan fwyaf o Syria wedi bod yn weddol dawel ers y cadoediad hyd yma.
Mae llywodraeth Syria a 97 o grwpiau o rebeliaid a gwrthryfelwyr wedi dweud y byddan nhw’n cadw at y cadoediad.
Dywed llywodraeth Rwsia eu bod nhw wedi atal pob ymosodiad o’r awyr mewn ardaloedd lle mae unrhyw grwpiau arfog, gan gynnwys y llywodraeth, wedi addo cadw at y cadoediad.