Canghellor y Trysorlys, George Osborne (llun: PA)
Mae’r Canghellor George Osborne wedi rhybuddio y bydd yn debygol o gyflwyno rhagor o doriadau ariannol yn y Gyllideb y mis nesaf.

Dywed ei fod yn bryderus am y twf araf yn economi Prydain ac am yr ansicrwydd ariannol byd-eang.

“Mae cymylau duon yn amlwg uwchben economi’r byd, ac mae hynny’n effeithio ar lawer o wledydd, gan gynnwys Prydain,” meddai George Osborne, sydd mewn cyfarfod o weinidogion cyllid gwledydd y G20 yn Shanghai.

“Mae’n wir ein bod yn dygymod â’r sefyllfa’n well na’r mwyafrif, ond rydym newydd gael cadarnhad nad yw ein heconomi gymaint ag roedden ni wedi’i obeithio.”

Roedd yn cyfeirio at ffigurau a gyhoeddwyd ddydd Iau yn dangos twf o 0.5% yn unig yn nhri mis olaf 2015.

‘Byw o fewn ein modd’

“Felly efallai y bydd yn rhaid inni wneud toriadau pellach mewn gwariant oherwydd all y wlad yma ond fforddio’r hyn y gall fforddio,” meddai’r Canghellor.

“Byddwn yn mynd i’r afael â hyn yn y Gyllideb, oherwydd dw i’n gwbl sicr fod yn rhaid inni sylfaenu’n gwlad ar yr egwyddor fod yn rhaid inni fyw o fewn ein modd a chael sicrwydd economaidd.”

Dywedodd mai’r cam cyntaf yw sicrhau bod arian y llywodraeth yn cael ei wario’n fwy effeithiol.

“Fe fyddwn ni’n dangos sut y byddwn ni’n lleihau gwariant, ond y peth cyntaf y byddaf yn chwilio amdano yw mwy o effeithlonrwydd mewn llywodraeth,” meddai.

“Mae yna bob amser ffyrdd o wneud llywodraeth yn well, a ffyrdd o sicrhau bod trethi pobl yn cael eu gwario’n well.”