Y Prif Weinidog David Cameron (Llun: PA)
Ni all llywodraeth Prydain warantu y byddai’n digolledu Cymru o’r arian y mae’n ei dderbyn gan yr Undeb Ewropeaidd os bydd pleidlais o blaid ‘Brexit’ ar 23 Mehefin.

Dyna oedd rhybudd y Prif Weinidog David Cameron wrth ymweld â Chymru ddoe.

Wrth annerch gweithwyr yn ffatri GE Aviation yn Nantgarw ger Caerffili, dywedodd y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn peryglu 100,000 o swyddi yng Nghymru.

Cyfeiriodd hefyd at yr arian y mae Cymru’n ei dderbyn trwy gronfeydd strwythurol yr Undeb.

“Gwyddom fod cyllideb Ewrop ar gyfer Cymru rhwng 2014 a 2020 yn £1.8 biliwn,” meddai.

‘Arian hanfodol’

“Mae hyn yn arian hanfodol ar gyfer datblygu economaidd a phrosiectau pwysig.

“Pe baen ni’n gadael, dw i’n credu y gallai fod yn golled economaidd sylweddol.

“Mewn amgylchiadau o’r fath, byddai llywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, yn awyddus i wneud ei gorau dros bob rhan o’r Deyrnas Unedig, ond allwch chi ddim gwarantu’r pethau hyn, oherwydd fe allen ni fod mewn amgylchiadau economaidd pur anodd.”

Dywedodd hefyd ei fod yn siomedig gyda phenderfyniad arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies i gefnogi pleidlais dros adael yr Undeb Ewropeaidd.