Chwarel Penrhyn, Bethesda Llun: Welsh Slate Ltd
Mae Aelod Seneddol Arfon wedi ennill cefnogaeth drawsbleidiol i gynnig seneddol ganddo i hyrwyddo’r ymgyrch am ddyfarniad statws Treftadaeth y Byd UNESCO i ardaloedd chwareli Gwynedd.

Mae Hywel Williams AS yn galw ar yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon i ystyried ardaloedd y diwydiant llechi fel Llanberis, Bethesda, Dyffryn Nantlle, Blaenau Ffestiniog a Chorris ar gyfer gwerthusiad technegol, i ennill statws Treftadaeth y Byd mewn cydnabyddiaeth o’u rhan yn hanes diwydiannol, economaidd, daearyddol a diwylliannol gogledd Cymru.

Ymhlith yr ASau sydd wedi ei gefnogi, mae aelodau o’r SNP, y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr.

“Byddai cydnabyddiaeth ffurfiol cyfraniad aruthrol y diwydiant llechi i ogledd Cymru yn deyrnged addas i bawb sy’n ymwneud â’r diwydiant,” meddai Hywel Williams.

“A byddai’n rhoi cyfle i genedlaethau’r dyfodol o bob cwr o’r byd ddysgu am gyfraniad gwerthfawr y meysydd hyn wrth ddiffinio hanes, diwylliant a thirwedd gogledd Cymru.”

‘Hwb economaidd’

“Nid gwaith hawdd fydd ennill y fath statws mawreddog, ond os bydd y cais yn llwyddiannus, byddai’n rhoi hwb economaidd sylweddol i ogledd Cymru ac i economi ehangach Cymru hefyd.”

“Mae rhai o’n safleoedd treftadaeth byd presennol yng ngogledd Cymru eisoes yn cael cydnabyddiaeth byd-eang, megis Castell Caernarfon. Byddai’n wych pe gallai hyn gael ei gyfateb gan roi’r un statws i ddiwydiant llechi gogledd Cymru.”

“Bydd Plaid Cymru yn parhau i gynnig cefnogaeth i’r gwaith caled a wnaed eisoes gan Gyngor Gwynedd a’u partneriaiad i droi y prosiect uchelgeisiol hwn yn realiti.”