Sue Evans (Lllun: Cyngor Gofal Cymru)
Mae Cyngor Gofal Cymru wedi cyhoeddi pwy yw ei brif weithredwr newydd yn dilyn cyhoeddiad gan Rhian Huws Williams y bydd yn ymddeol o’r rôl, ar ôl bron i 15 mlynedd.

Sue Evans fydd yn cymryd ei lle, sy’n Brif Swyddog Gofal Cymdeithasol a Thai gyda Chyngor Torfaen ac yn Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gofal Cymdeithasol Cymru ar hyn o bryd.

Yn wahanol i Rhian Huws Williams, sydd wedi cael clod am ei gwaith o Gymreigio gweithlu’r Cyngor Gofal, nid yw’r prif weithredwr newydd yn gallu siarad Cymraeg.

Bydd Rhian Huws Williams yn gorffen ei gwaith â’r Cyngor ym mis Mehefin, cyn trosglwyddo’r awenau i’w holynydd.

Cyfnod o newid i’r Cyngor

Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, Arwel Ellis Owen, y bydd Sue Evans yn “dod â phrofiad helaeth i rôl y Prif Weithredwr, a hynny yn ystod amser o newidiadau a chyfleoedd cyffrous i’r Cyngor Gofal.”

“Ym mis Ebrill 2017 bydd y Cyngor Gofal yn newid i fod yn Ofal Cymdeithasol Cymru, sefydliad gyda phwerau ehangach a rôl arweiniol i’w chwarae wrth weithredu deddfwriaeth newydd y Llywodraeth.

Golyga hyn y bydd gan y Cyngor mwy o gyfrifoldeb am reoleiddio a datblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan hefyd wella gwasanaethau, ymchwil a hyfforddiant.

“Mae gan Sue y profiad ar lefel uwch o fewn gwasanaethau cymdeithasol, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, tai a sefydliadau gwirfoddol i fedru symud y sefydliad ymlaen yn ystod y cyfnod cyffrous, ond heriol hwn,” meddai Arwel Ellis Owen.

“Mae Rhian Huws Williams wedi bod yn Brif Weithredwr arbennig, sydd wedi arwain y Cyngor Gofal ers iddo agor ei ddrysau ym mis Hydref 2001, a’i lywio trwy nifer o gyraeddiadau sylweddol wrth adeiladu sefydliad llwyddiannus.”