Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru (llun: Stefan Rousseau/PA)
Mae disgwyl i arweinydd Plaid Cymru feirniadu gwario £100 biliwn ar arfau niwclear mewn rali yn erbyn adnewyddu Trident yn Llundain heddiw.

Y gred yw y bydd miloedd yn y rali heddiw er mwyn pwyso ar wleidyddion cyn y bleidlais, a fydd yn cael ei chynnal yn San Steffan dros y flwyddyn nesaf ar adnewyddu Trident, system o longau tanfor sy’n cludo arfau niwclear.

Mae’r rali, Stop Trident, wedi’i threfnu gan yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear (CND), a fydd yn cynnwys Leanne Wood o Blaid Cymru, arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon ac AS y Blaid Werdd, Caroline Lucas.

Mae gwrthwynebwyr Trident yn dweud y byddai’n costio £100 biliwn i’r DU i’w gadw ond yn ôl amcangyfrif y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2014, byddai’n costio rhwng £17.5 biliwn a £23.4 biliwn.

 ‘Cwbl warthus’

Yn ôl Leanne Wood, byddai gwario arian ar y system yn “gwbl warthus” mewn cyfnod o gynni ariannol.

“Pan fo mwy o bobl nag erioed yn defnyddio banciau bwyd, pan fo’r bwlch rhwng y tlawd a’r cyfoethog yn tyfu… mae hi’n gwbl warthus y bydd £100 biliwn a mwy yn cael ei wario ar arfau niwclear na ddylai unrhyw un fyth eu defnyddio,” meddai.

“Drwy gydol hanes, mae’r byd wedi bod ac yn parhau i fod yn lle ansefydlog ac anodd i’w ddarogan, ond mae rhai gwerthoedd sy’n parhau drwy heddwch neu ryfel, drwy sefydlogrwydd neu ansicrwydd.

“Ymysg yr egwyddorion hynny mae’r gred na ellir byth, byth gyfiawnhau defnyddio arfau dinistriol torfol yn erbyn unrhyw boblogaeth, dan unrhyw amgylchiadau.”

“Gadewch i ni greu dyfodol heb arfau niwclear.”