Llun: PA
Mae meddygfeydd preifat yng Nghymru wedi gweld cynnydd mawr yn y nifer o gleifion sydd eisiau brechiadau meningitis B – er bod prinder o’r feddyginiaeth.
Ar hyn o bryd mae unrhyw fabanod gafodd eu geni ar ôl 1 Gorffennaf llynedd yn gallu cael y frech drwy’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Ond ar ôl i Faye Burdett, plentyn ifanc o Gaint, farw o’r afiechyd llai na phythefnos yn ôl mae nifer y rhieni sydd eisiau brechu plant hŷn drwy feddygfeydd preifat wedi cynyddu’n sylweddol.
Does dim digon o’r brechlyn gan y meddygfeydd hynny, fodd bynnag, gan fod y gwasanaeth iechyd wedi prynu’r rhan fwyaf o’r stoc sydd ar gael.
Deiseb
Mae deiseb yn galw ar y frech i gael ei roi i blant hyd at 11 mlwydd oed eisoes wedi denu dros 800,000 o lofnodion.
Ond gyda’r pigiad ddim ar gael i blant o’r oed hwnnw ar y gwasanaeth iechyd, mae rhieni wedi ceisio troi ar feddygon preifat.
Dywedodd IPG, sydd â meddygfeydd yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd, wrth y BBC fod eu rhestr aros wedi cynyddu o 60 i 1,500 o fewn wythnos, tra bod un arall, Novad, wedi gweld galwadau’n cynyddu o un y dydd i 100.
‘Risg uchaf’
Mae gwneuthurwyr y feddyginiaeth, GlaxoSmithkline, wedi dweud eu bod yn ceisio cynhyrchu rhagor erbyn yr haf eleni.
Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, ceisio sicrhau bod y babanod mwyaf bregus yn cael eu brechu yw pwrpas y cynllun.
“Fe gynghorodd y Cyd-bwyllgor ar Frechiadau ac Imiwneiddiadau y dylai’r rhaglen frechu meningitis B warchod babanod o dan bum mis oed gan mai dyma ble mae’r risg ar ei fwyaf,” meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.