Dyn yn cymryd llun o'i hun yn Mumbai, India
Mae Mumbai wedi gwahardd pobl rhag cymryd lluniau o’u hunain – neu ‘selfies’ – mewn 16 o ardaloedd yn dilyn cynnydd yn nifer y bobl sy’n marw wrth wneud hynny.

Mae’r arfer poblogaidd o dynnu lluniau ar ffonau symudol ar gynnydd yn India ond mae wedi arwain at nifer o farwolaethau yn ddiweddar.

Yn India mae’r nifer fwyaf o bobl wedi marw wrth gymryd lluniau o’u hunain.  O’r 49 o farwolaethau sydd wedi cael eu cofnodi  sy’n gysylltiedig â ‘selfies’ ers 2014, roedd 19 o’r rheiny yn India, yn ôl Priceonomics, sydd wedi cyflwyno’r ffigurau.

Mae India yn un o’r marchnadoedd ffonau symudol sy’n tyfu gyflymaf yn y byd.

‘Risgiau diangen’

Ond mae Mumbai bellach wedi gwahardd selfies ar draws y ddinas ac mae’r awdurdodau yn rhybuddio pobl rhag cymryd risgiau diangen.

Yn gynharach y mis hwn bu farw myfyriwr 18 oed ar ôl iddo ddisgyn oddi ar graig tra’n cymryd selfie ger dinas Nashik yn India. Fe ddisgynnodd i’r dŵr a boddi ynghyd a myfyriwr arall a oedd wedi neidio i’r dŵr i geisio ei achub.

Fis diwethaf fe ddisgynnodd dynes 18 oed i’r môr a boddi tra’n cymryd llun o’i hun ar y Bandstand Fort yn Mumbai, sy’n gyrchfan boblogaidd gyda thwristiaid.

Ac ym mis Ionawr 2014 bu farw tri myfyriwr ar ôl iddyn nhw gael eu taro gan drên wrth geisio tynnu llun o’u hunain yn ystod eu taith i ymweld â’r Taj Mahal.

Dirwy

Mae’r heddlu yn Mumbai yn gwahardd pobl rhag cymryd lluniau mewn ardaloedd sy’n cael eu hystyried yn beryglus, sef ar hyd yr arfordir a mannau sydd heb ffensys neu rwystrau.

Bydd unrhyw un sy’n mentro i’r mannau yma, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n cymryd llun, yn cael dirwy o 1,200 rupee – tua £13. Mae’r ddinas hefyd yn bwriadu dechrau ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r peryglon.