Mae’n rhaid i Openreach fod yn fwy annibynnol o BT, meddai Ofcom, ac mae’n rhaid i’r DU “wneud yn well” wrth ddarparu band eang cyflym iawn.

Mae Openreach yn darparu ceblau ffon a band eang i gartrefi cwsmeriaid.

Yn ôl y rheoleiddiwr fe ddylai BT agor y rhwydwaith i gystadleuwyr, er mwyn iddyn nhw adeiladu eu rhwydweithiau eu hunain yn uniongyrchol i gartrefi a swyddfeydd.

Dywed Ofcom y bydd hyn yn rhoi mwy o ddewis i bobl ynglŷn â sut maen nhw’n derbyn eu gwasanaethau ffon a band eang.

Yn ôl adolygiad Ofcom, mae ’na dystiolaeth bod Openreach yn gwneud penderfyniadau “sydd o fudd i BT yn hytrach na chystadleuwyr BT, sy’n gallu arwain at broblemau cystadleuaeth.”