Tim Farron
Bydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ymweld â Phowys heddiw i lansio ymgyrch Gymreig ei blaid i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Tim Farron, a fydd yn ymuno ag arweinydd ei blaid yng Nghymru, Kirsty Williams, y ffordd orau o gefnogi sector busnes a thwristiaeth Cymru yw aros yn yr undeb.

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae’r UE yn cefnogi menter a busnes a dyna pam eu bod nhw’n ymgyrchu i aros yn rhan ohono.

“Mae’r UE yn cynnig cyfleoedd enfawr i’n busnesau bach a’n sector twristiaeth. Galla’i ddim deall pam fyddai rhywun am wrthod y cyfleoedd hynny,” meddai Tim Farron.

Bydd y ddau yn ymweld â busnesau bach yn Aberhonddu, sydd yn etholaeth yr arweinydd Cymreig yn y Cynulliad.

‘Unedig’

Cyn ei ymweliad, dywedodd Tim Farron, mai’r Democratiaid Rhyddfrydol yw’r unig blaid yn y DU “sy’n hollol unedig” o blaid aros yn Ewrop.

Roedd yn cydnabod nad yw’r UE yn “berffaith, dydy San Steffan ddim chwaith,” meddai.

“Ond dydy mynd adref wedi pwdu ddim yn ffordd o ennill. Dylwn fod y llais ar y blaen yn galw am newid, gan aros mewn Ewrop ddiwygiedig.”

Twristiaeth

Mae disgwyl iddo bwysleisio pwysigrwydd twristiaeth yng Nghymru a gwerth hynny o aros yn rhan o Ewrop, gan ei bod hi’n “hawdd” i bobol o’r cyfandir deithio yma.

“Mae Cymru yn elwa’n fawr oherwydd y ffaith bod pobol yn gallu teithio i’r DU yn hawdd a bod ein busnesau yn gallu gweithredu o fewn ardal fasnach fwyaf y byd.

“Mae UKIP a llawer o’r Torïaid yn barod i chwarae gêm beryglus ag economi Cymru, ond dydy’r Democratiaid Rhyddfrydol ddim.”

Dywedodd fod y sector twristiaeth yn werth £6.9 biliwn y flwyddyn i economi Cymru a bod “yn rhaid ei alluogi i dyfu gyda’r DU yn aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.”