Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgyrch newydd sy’n annog pobol i fyw bywydau iachach er mwyn lleihau eu risg o ddatblygu dementia.
Yn ôl ffigurau arolwg diweddar ar yr afiechyd, dyma’r cyflwr sy’n peri’r mwyaf o bryder i bobol Cymru, gyda 76% yn poeni am ddatblygu dementia.
Erbyn hyn, mae 42,000 o bobol 30 oed neu hŷn yn dioddef o’r cyflwr, ac wrth i fwy o bobol fyw yn hirach, bydd nifer y bobol sy’n ei ddatblygu yn cynyddu.
Er mwyn mynd i’r afael a’r broblem, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford wedi cyhoeddi ymgyrch newydd i annog rhagor o bobol i fyw yn iachach a bod yn fwy actif.
Bydd yr ymgyrch – GWNA FE, sy’n nodi chwe cham ar sut i leihau’r risg o ddementia, yn cael ei lansio gyda delwedd o flodau n’ad fi’n angof (forget-me-not) yn cael eu dangos ar Gestyll Caerdydd, Abertawe a Chaernarfon a Phrifysgol Bangor am tua 5 o’r gloch heddiw.
Mae’r chwe cham yn cynnwys:
- Gwiria dy iechyd yn gyson
- Wyt ti’n cadw at dy bwysau?;
- Na! i ysmygu;
- Alcohol o fewn y canllawiau os o gwbl;
- Fedri di gerdded mwy bob dydd?;
- Edrych am hobi newydd.
‘Lleihau’r risg’
Mae gwaith ymchwil yn dangos y gall byw bywyd iachach leihau’r risg o ddatblygu dementia o 60%.
“Mae’r risg o ddatblygu dementia yn cynyddu wrth fynd yn hŷn. Dydych chi byth yn rhy ifanc i gymryd camau syml i wella eich iechyd corfforol a meddyliol wrth i chi fynd yn hŷn, gyda’r gobaith o leihau eich risg o ddementia a chlefydau eraill,” meddai Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd.
“Rydym wedi ymrwymo i leihau effaith dementia. Dyma pam rydyn ni’n buddsoddi arian ychwanegol yn awr gan weithredu i gynyddu cyfraddau diagnosis a gwella’r cymorth sydd ar gael i bobl â dementia.”
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd £30m yn ychwanegol yn mynd at iechyd meddwl pobol hŷn, ar ben y £5.5m y flwyddyn o gyllid ychwanegol sy’n mynd i wella gwasanaethau dementia.
Profiad personol o ddementia
Fe benderfynodd Debbie James, 51 oed, newid ei ffordd o fyw er mwyn lleihau ei risg o ddementia a bu ei mam farw o’r afiechyd ychydig fisoedd yn ôl
“Wedi gweld dementia drosof fy hun, a hefyd yn gweld fy mam yng nghyfraith yn ei ddioddef ar hyn o bryd, byddwn yn argymell i bawb waeth pa mor ifanc ydych chi, i fod yn fwy actif,” meddai wrth sôn am ei phrofiadau o ymuno â chlwb beicio lleol.
“Does dim rhaid i chi fod yn athletwr i ymuno â grŵp lleol, ac mae ’na lawer o fanteision cymdeithasol hefyd. Y cwbl y gallwn ni ei wneud yw cadw ein hunain mor heini ac iach â phosibl.”