Dehli Newydd (Ville Miettinen CCA 2.0)
Mae cyflenwadau dŵr yn dechrau cael eu hadfer ym mhrifddinas India ar ôl i brotestwyr hawliau dynol ddifrodi camlsa allweddol.

Wrth i beirianwyr geisio drwsio’r cyflenwad, mae 70 o danceri dŵr wedi cael eu hanfon i rannau gorllewinol y ddinas lle nad oes dŵr wedi bod ers dau ddiwrnod.

Mae’r gamlas yn gyfrifol am ddarparu dŵr i 60% o’r 18 miliwn o bobol sy’n byw yn Delhi Newydd, ac ar anterth yr helynt, roedd hyd at 10 miliwn o bobol heb ddŵr yn dilyn y brotest gan aelodau o’r caste Jat.

Effaith y system gaste yn parhau

Y cymunedau ar yr ymylon, sy’n byw mewn slymiau ger yr afon sy’n diodde’ fwya’, gan fod cymaint yn troi at ddŵr wedi’i heintio o’r afon a thyllau sy’n gollwng dŵr o bibellau.

Ond aelodau o gymuned ddi-fraint arall, caste y Jat, sydd wedi bod yn protestio er mwyn cael cwotâu i sicrhau eu body n cael chwarae teg o ran swyddi yn y llywodraeth a sefydliadau addysg.

Mae’r gymuned yn deillio o hen gaste ffermio, ond mae’r protestio’n dangos sut y mae’r hen system o haenau cymdeithasol caeth yn parhau’n ddylanwadol yn India.

12 wedi marw

Mae 12 wedi marw mewn gwrthdrawiadau rhwng y protestwyr â’r llywodraeth hyd yn hyn, cyn i arweinwyr y gymuned Jat gytuno i ddod â’u protest i ben er mwyn trafod â swyddogion.

Roedd pobol fwy cyfoethog y ddinas wedi osgoi’r prinder dŵr, gan fod y rhan fwyaf ohonyn nhw yn dibynnu ar ddŵr sy’n cael ei godi o’r ddaear.