Camerau'r we (lluniau cyhoeddusrwydd)
Mae nifer o bobol yn ardal Heddlu Dyfed-Powys wedi diodde’ blacmêl rhywiol yn ystod yr wythnosau diwetha’.

Maen nhw wedi cael eu twyllo i gymryd rhan mewn sgyrsiau fideo rhywiol ac wedyn wedi cael bygythiadau y bydd y lluniau’n cael eu dangos ar y rhyngrwyd a’u hanfon at deulu a ffrindiau.

Yn awr, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio pobol rhag y peryg, gan ddweud mai’r unig ateb saff yw osgoi cymryd rhan mewn sgyrsiau.

Gofyn am arian

“Mae nifer o ddioddefwyr wedi cysylltu â ni yn ystod yr wythnosau diwetha yn dweud eu bod wedi dioddef o ‘sextortion’,” meddai’r Ditectif Sarjiant Rob Gravelle.

“Mae troseddwyr yn aml yn dod yn ffrindiau gyda’u prae ar Facebook ac aedyn yn symud i lwyfan fel Skype lla gallan nhw ddal eu gweithgaredd ar fideo.

“Unwwaith y byddan nhw’n cael y fideo, fe fyddan nhw’n ceisio blacmelio’r dioddefwyr i anfon arian, fel rheol i gyfri’ tramor.”

Y cyngor

Ymhlith y pwyntiau o gyngor gan yr heddlu, maen nhwn dweud na ddylai neb gael eu hudo i wneud pethau o flaen gwe-gamera.

Os bydd rhywun yn cael eu dal, ddylen nhw ddim ymateb i’r bygythiadau ond galw’r heddlu a rhoi gwybod i’r wefan gymdeithasol.