Nicola Sturgeon - ar gael i siarad (Llun Trwydded Llywodraeth Agored 1.0)
Mae’n ymddangos y bydd rhaid cael cyfarfod brys rhwng prif weinidogion yr Alban a Phrydain i dorri’r ddadl tros gyllid i’r llywodraeth yng Nghaeredin.

Roedd trefniadau ar gyfer hynny eisoes ar y gweill, meddai Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, John Swinney, wrth aelodau o senedd y wlad.

Ond mae’r dyddiad terfyn ar gyfer cytundeb eisoes wedi’i golli ac mae Llywodraeth yr Alban wedi bygwth tanseilio’r trefniant datganoli newydd os na fyddan nhw’n cael chwarae teg.

Ofn colli biliynau

Yn ôl Llywodraeth yr Alban, fe fyddai pob cynnig sydd wedi ei wneud hyd yn hyn yn costio biliynau o bunnoedd i’r wlad – £2 biliwn tros 10 mlynedd yw eu hamcangyfri’ ar gyfer y cynnig diweddara’.

Maen nhw’n dweud bod angen ystyried y ffaith fod poblogaeth yr Alban yn cynyddu’n arafach na gweddill y Deyrnas Unedig.

Yn ôl John Swinney, cyfarfod rhwng Nicola Sturgeon a David Cameron yw un ffordd sydd ar gael i dorri’r ddadl.

Roedd cytundeb ar bopeth ond y gyllideb, meddai.