Y darlun traddodiadol o Fiji (Jon-Eric Melsaeter CCA2.0)
Fe gafodd o leia’ 18 o bobol eu lladd yn un o’r corwyntoedd gwaetha’ i daro Ynysoedd Môr y De.

Mae’r marwolaethau yn Fiji, lle mae 6,000 o bobol hefyd wedi  gorfod dianc i lety dros dro.

Ac mae pryder y gallai’r colledion fod yn fwy fyth gyda thrafferthion i gysylltu â rhai o’r mwya’ anghysbell o’r mwy na 100 o ynysoedd yn y wlad.

Ar ei ffyrnica’, roedd trowynt Winston yn chwythu mor galed â 177 milltir yr awr – y storm gryfa’ erioed i gael ei chofnodi yn Hemisffer y De.

‘Amser o dristwch’

“Mae’n amser o dristwch, ond fe fydd hefyd yn amser o weithredu,” meddai Prif Weinidog Fiji, Voreqe Bainimarama, mewn anerchiad teledu i’r bobol.

“Mae’r difrod wedi bod yn eang, mae cartrefi wedi cael eu dinistrio, mae llawer o ardaloedd isel wedi gorlifo a llawer o bobol wedi eu gadael yn syfrdan a dryslyd ynglŷn â beth i’w wneud.”

Fe ddywedodd bod yr heddlu a’r fyddin yn helpu gyda’r cyrchoedd achub a’r glanhau a bod asiantaethau’r llywodraeth yn ceisio clirio ffyrdd.

Mae tua 900,000 o bobol yn by wyn Fiji.