BT - un o'r cwmniau sy'n debyg o gefnogi''r llythyr (logo'r cwmni)
Mae disgwyl y bydd penaethiaid hanner cwmnïau mwya’ gwledydd Prydain yn cyhoeddi eu bod o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl y papur newydd busnes, yr FT, mae 50 o benaethiaid wedi arwyddo llythyr a fydd yn cael ei gyhoeddi fory, yn dweud ei body n “well aros” yn yr Undeb.

Dyma gwmnïau o restr y FTSE100 – y rhai mwya’ ar y farchnad stoc – ac maen nhw’n cynnwys cwmnïau fel Shell, BAe a BT.

Ford o blaid aros

Eisoes roedd pennaeth ceir Ford wedi dweud wrth y BBC ddoe eu bod nhw’n awyddus i weld gwledydd Prydain yn aros yn rhan o’r undeb.

Cadeiryddion a phrif weithredwyr sydd wedi arwyddo’r llythyr a fydd yn cael ei weld yn hwb mawr i Brif Weinidog Prydain, David Cameron, yn sgil y dadlau am werth y cytundeb newydd a gafodd o Ewrop.

Mae’r llythyr hefyd yn rhan o’r frwydr i geisio sefydlu’r agenda ar gyfer ymgyrch y refferendwm o’r dechrau cynta’.