Llun Cyngor Llyfrau Cymru
Mae tua 26,000 o blant Cymru mewn perygl o adael yr ysgol gynradd heb feddu ar sgiliau darllen digonol, yn ôl ymgyrch ‘Darllena, Datblyga’ sy’n hybu llythrennedd.
Mae’r ymgyrch, sy’n cynnwys elusennau, undebau addysg a grwpiau cefnogi yng Nghymru, wedi galw ar y pleidiau gwleidyddol i ymrwymo cyn Etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai, i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gadael yr ysgol gynradd â sgiliau darllen da.
Mae’r ymgyrch yn mynegi pryder am blant o gefndiroedd tlawd, ac yn rhybuddio fod methiant yn y system addysg yn gadael effaith hirdymor arnyn nhw o ran cyfleodd i’r dyfodol.
Serch hynny, maen nhw’n cydnabod cynnydd yn yr ymdrech i leihau’r bwlch rhwng sgiliau plant o wahanol gefndiroedd yng Nghymru, gydag Adroddiad Blynyddol Estyn 2014-15 yn dangos gwelliant ymhlith disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
‘Prif flaenoriaeth’
“Mae cefnogi pob un o’n pobol ifanc i ennill sgiliau llythrennedd a rhifedd ardderchog a sicrhau ein bod yn cau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion yn y prif flaenoriaethau ar gyfer addysg yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
Esboniodd y llefarydd eu bod wedi diwygio’r Cyfnod Sylfaen “i gryfhau dysgu ac addysgu llythrennedd”.
“Bydd llythrennedd a rhifedd wrth galon ein cwricwlwm newydd arloesol, ag gynigiwyd gan yr Athro Donaldson. Byddwn yn disgwyl i bob athro ymgorffori’r sgiliau hanfodol hyn yn eu gwersi, heb ystyried y maes neu gyfnod o addysg.”