Ystafell gyfarfod y Comisiwn Ewropeaidd (llun y Comisiwn)
Mae undeb amaethyddol yn galw ar yr Undeb Ewropeaidd i weithredu ar frys i helpu ffermwyr Cymru tros broblemau ariannol tymor byr.
Roedd Llywydd NFU Cymru, Stephen James, ymhlith cynrychiolwyr o bedair gwlad y Deyrnas Unedig yn lobïo ym Mrwsel ddiwedd yr wythnos yn cyfarfod gyda swyddogion yr Undeb.
Roedden nhw’n galw am roi hawl i’r Banc Buddsoddi Ewropeaidd addasu amodau benthyciadau i ffermwyr ac ar Lywodraeth Cymru i brysuro gyda thaliadau’r Cynllun y Taliad Sylfaenol.
Roedden nhw hefyd eisiau diwedd ar dollau ar fewnforio gwrtaith ac am adfer y fasnach gyda Rwsia, sydd yn diodde’ oherwydd y cyfyngiadau masnach yn sgil gweithredoedd Rwsia yn yr Wcrain.
Trafferthion
“Mae ffermwyr ledled Cymru’n cael trafferthion ariannol oherwydd ffactorau byd-ean ac oedi yn nhaliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol,” meddai Stephen James.
“Mae yna fesurau y gall y Comisiwn Ewropeaidd eu cymryd a fydd ynhelpu busnesau’n awr ac yn gymorth iddyn nhw ddod trwy’r anawsterau difrifol sy’n taro holl ffermwyr Ewrop ar hyn bryd.”