David Cameron (PA)
Fe gollodd gwleidyddion Cymru – a’r Alban a Gogledd Iwerddon – eu hymdrech i rwystro refferendwm Ewrop rhag amharu ar etholiadau’r Cynulliad.

Ddoe fe gyhoeddodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, y bydd y refferendwm yn cael ei gynnal ar 23 Mehefin – chwech wythnos wedi’r etholiadau.

Roedd  Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ymhlith y rhai oedd wedi galw ar David Cameron i ohirio’r refferendwm tan yr hydref.

Roedd wedi sgrifennu at Brif Weinidog Prydain yn rhybuddio y byddai refferendwm ym mis Mehefin yn amharu ar y broses ddemocrataidd yng Nghymru.

Roedd arweinwyr eraill fel Leanne Wood o Blaid Cymru hefyd wedi condemnio’r bwriad a Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi gwrthwynebu’n gryf.

‘Drysu’

Bellach mae pump AS Ceidwadol o Gymru wedi dweud eu bod nhw o blaid aros yn Ewrop, gyda phedwar yn bwriadu ymgyrchu dros adael a dau eto i ddatgan eu barn.

Yn ôl arbenigwyr gwleidyddol, fe allai’r cydredeg ymgyrchoedd y refferendwm a’r etholiadau fod yn hwb i’r blaid wrth-Ewropeaidd UKIP.

Fe allai arwain at ddryswch hefyd, medden nhw, gyda gwleidyddion yn gwrthwynebu’i gilydd yn un ymgyrch ac yn cefnogi ei gilydd yn y llall.