Boris Johnson (llun parth cyhoeddus)
Mae Boris Johnson yn dweud bod yr Undeb Ewropeaidd yn dieithrio pleidleiswyr ac yn sbarduno twf mewn pleidiau eithafol.

Yn ei golofn bapur newydd gynta’ ers cyhoeddi y bydd yn cefnogi’r ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd, fe ddywedodd Maer Llundain y byddai pleidlais i aros yn yr Undeb yn golygu y byddai Prydain yn wynebu “erydu pellach mewn democratiaeth”.

Roedd y refferendwm yn cynnig “cyfle unwaith mewn oes” i sicrhau “newid go iawn” i berthynas Prydain â’r gwledydd Ewropeaidd, meddai yn y Daily Telegraph.

Ergyd i Cameron

Mae penderfyniad Boris Johnson yn cael ei weld yn ergyd i Brif Weinidog Prydain, David Cameron, ddiwrnod wedi iddo ofyn am gefnogaeth i’r cytundeb a gafodd gyda’r Undeb. Daw hefyd â misoedd o amheuaeth ynglŷn â chefnogaeth Maer Llundain i ben.

“Dim ond un ffordd sydd i gael y newid rydym ei angen – a phleidlais i adael yw hynn,” meddai Boris Johson.

“Rydym yn gweld pobol yn cael eu hynysu rhag y pwerau dylen nhw eu cael, a dw i’n siŵr bod hyn yn cyfrannu at yr ymdeimlad o ymddieithrio, y difaterwch, a’r gred fod gwleidyddion ‘i gyd yr un peth’ a ddim yn gallu newid dim byd, a’r cynnydd mewn pleidiau eithafol.”

Mae’r refferendwm eisoes wedi creu hollt o fewn y Blaid Geidwadol  gyda phump gweinidog Cabinet, ynghyd â charfan fawr o aelodau’r meinciau cefn, wedi mynegi eu cefnogaeth i’r ymgyrch i adael yr Undeb.

Mehefin 23

Er hyn, mae rhai wedi beirniadu cyhoeddiad Maer Llundain fel ffordd i roi ei hun mewn safle gwell i gymryd awenau’r blaid, gyda’r cyn-Ddirprwy Brif Weinidog, yr Arglwydd Heseltine, yn ei feirniadu am beryglu ei rôl.

Fe fydd y Prif Weinidog yn cyflwyno manylion cytundeb diwygiedig aelodaeth Prydain yn yr Undeb, ynghyd â’r camau nesaf i’w cymryd cyn y refferendwm sydd i’w gynnal ar Fehefin 23.