Recep Tayyip Erdogan, prif weinidog Twrci, wedi beirniadu'r ymosodiad
Mae naw o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn ffrwydrad ym mhrifddinas Twrci a laddodd 28 o bobol.

Mae prif weinidog y wlad, Ahmet Davutoglu wedi dweud mai Cwrdiaid oedd yn gyfrifol am y digwyddiad yn Ankara.

Dyn o Syria oedd wedi ffrwydro’r bom a dargedodd fws oedd yn cludo milwyr, ac mae lle i gredu ei fod yn aelod o’r PKK – Plaid y Gweithwyr Cwrdaidd.

Yn ddiweddarach, fe darodd Twrci yn ôl wrth i awyrennau dargedu safleoedd y Cwrdiaid tu draw i’r ffin yng ngogledd Irac.

Mae Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan wedi beirniadu’r ymosodiad gan ddweud ei fod yn mynd y tu hwnt i’r “ffiniau moesol a dynol”.

Mae Erdogan wedi rhoi’r gorau i’w gynlluniau i deithio i Azerbaijan yn dilyn y digwyddiad, ac fe fydd yn cyfarfod â Davutoglu heddiw i drafod diogelwch yn y wlad.