Rhan o grib Ben Nevis (llun parth cyhoeddus)
Mae timau achub mynydd, sy’n chwilio am ddau ddringwr ifanc ar fynydd uchaf Prydain, yn bwriadu ail-ddechrau chwilio heddiw, yn dilyn tywydd gwael ddydd Mercher.
Mae’r chwilwyr yn edrych am Rachel Slater, 24 a Tim Newton, 27, ar ôl iddyn nhw fynd i drafferthion ar fynydd Ben Nevis ar Ucheldiroedd yr Alban dros y penwythnos.
Hynny ar ôl i ddau berson arall gael eu lladd ac un ei anafu’n ddifrifol yn ystod yr wythnos ddiwetha’ wrth geisio dringo’r mynydd.
Asesu’r tywydd
Roedd eira trwm, niwl a gwyntoedd wedi atal y timau rhag chwilio’r mynyddoedd ddoe a’r gred yw bod y ddau ddringwr profiadol, o Bradford yn Swydd Efrog, wedi bod yn gwersylla ar ochr gogleddol Ben Nevis.
Er mai’r bwriad yw mynd i chwilio amdanyn nhw heddiw, does dim sicrwydd eto y bydd y tywydd yn caniatáu hynny i ddigwydd.
“Bydd timau achub mynydd yn asesu’r tywydd ar ôl iddi wawrio i weld os allan nhw barhau i chwilio,” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r Alban.