Mae cyn-bennaeth meddygol rygbi’r byd wedi rhybuddio y dylai asgellwr Cymru, George North, ystyried rhoi’r gorau i chwarae os bydd yn cael clec ddifrifol arall are i ben.

Fe gafodd y Cymro bedair ergyd yn ystod y tymor diwetha’ ac, yn ôl Barry O’Driscoll, mae hynny’n ddigon i achosi pryder ond fe ddylai ergyd arall olygu meddwl o ddifri am roi’r gorau iddi.

Mae hynny’n dilyn penderfyniad asgellwr arall, Matthew Pewtner o Ddreigiau Gwent, i roi’r gorau iddi ddoe ar ôl methu â gwella’n iawn ar ôl cael ei daro yn ei ben a cholli ymwybyddiaeth.

Ymgyrchu

Ac yntau’n gyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol ei hun, mae Barry O’Driscoll yn ymgyrchu i newid agwedd yr awdurdodau rygbi at ergydion i’r pen ac anafiadau i’r ymennydd.

Roedd wedi bod yn feirniadol iawn o’r ffordd y cafodd George North ei drin ar ôl cael dwy glec i’w ben mewn un gêm yn erbyn Lloegr y llynedd.

Fe ddywedodd wrth y BBC y byddai un ergyd arall i’r pen yn ddigon iddo feddwl o ddifri am yr oblygiadau.