Rhybudd i'r cefnogwyr (llun: Adam Davy/PA)
Mae tocynnau ar gyfer y gêm fawr rhwng Cymru a Lloegr yn Ewro 2016 eisoes yn cael eu hysbysebu ar y We am 123 gwaith eu pris gwreiddiol.
Roedd modd i gefnogwyr lwcus oedd yn mynd i Ffrainc gael gafael ar docynnau Categori 4 ar gyfer yr ornest yng Ngrŵp B am gyn lleied â €25 (£20) drwy ffynonellau swyddogol.
Ond mae rhai gwefannau yn hysbysebu tocynnau yn yr un categori ar gyfer y gêm yn Lens am £2,477 yr un.
Mae’r un peth yn wir am gêmau eraill Cymru yn y gystadleuaeth, gyda rhai tocynnau ar gyfer yr ornest agoriadol yn erbyn Slofacia ar werth am 43 gwaith y pris gwreiddiol, a rhai ar gyfer Cymru v Rwsia yn mynd am 22 gwaith y pris.
Fe rybuddiodd Paul Corkery o gymdeithas cefnogwyr FSF Cymru i bobol beidio â phrynu tocynnau o wefannau o’r fath gan fod posibilrwydd y gallen nhw gael eu twyllo.
Gêmau Cymru’n boblogaidd
Mae sawl gwefan eisoes wedi dechrau gwerthu tocynnau ar gyfer gemau yn Ewro 2016 er mai dim ond yr wythnos ddiwethaf y cafodd y cefnogwyr cyntaf wybod a oedd eu ceisiadau yn llwyddiannus ai peidio.
Roedd un wefan, ticketbis.net, yn hysbysebu tocynnau ar gyfer gêm Cymru v Lloegr ar 16 Mehefin am hyd at £2,477, tra bod rhai yn gofyn am dros £1,200 ar gyfer tocynnau Categori 1 i’r gêm yn erbyn Slofacia yn Bordeaux ar 11 Mehefin.
Roedd tocynnau ar gyfer yr ornest yn erbyn Rwsia yn Toulouse ar 20 Mehefin hefyd yn cael eu hysbysebu am gannoedd o bunnoedd oddi ar yr un wefan.
Yn ôl gwefan arall, livefootballtickets.com, roedd tair gêm grŵp Cymru ymysg y deg gêm Ewro 2016 fwya’ poblogaidd ar eu gwefan o ran poblogrwydd.
Rhybudd am dwyllwyr
Mae FSF Cymru wedi dweud y gallai Cymdeithas Bêl-droed Cymru dderbyn rhagor o docynnau oddi wrth UEFA fodd bynnag, ac wedi cynghori cefnogwyr siomedig i beidio â throi at wefannau answyddogol.
“Fydden i’n rhybuddio pobol i beidio â’u prynu. I ddechrau, d’ych chi ddim yn gwybod a ydyn nhw’n rai go iawn ai peidio,” meddai Paul Corkery wrth golwg360.
“Yr unig rai ddylech chi dderbyn yw rhai swyddogol gan UEFA. Yn Ewro 2012 fe dalodd lot o bobol drwy eu trwynau heb erioed dderbyn tocynnau.
“Ein cyngor ni fyddai peidio â mynd yn agos atyn nhw. Mae’n bosib y gallwch chi ddod o hyd i rai yn nes at y gêm, neu ar y diwrnod.
“Bydd rhai yn cael eu temptio [i’w prynu] wrth gwrs, ond falle wnawn nhw fyth eu derbyn. Dyw’r tocynnau ddim yn cael eu hanfon allan nes mis Mai, felly all unrhyw un ddweud bod ganddyn nhw bedwar tocyn i gêm, does dim tystiolaeth.”
Stori: Iolo Cheung