Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gofyn i UEFA am ragor o docynnau ar gyfer gemau Ewro 2016 ar ôl helynt gyda’r broses yr wythnos diwethaf.

Cafodd cefnogwyr wybod yn swyddogol ddydd Mawrth diwethaf a oedden nhw wedi bod yn llwyddiannus â’u ceisiadau i fynd i’r gemau yn Ffrainc ai peidio.

Ond fe gafodd miloedd eu siomi hefyd ar ôl methu â chael gafael ar docynnau i wylio tîm Chris Coleman yn herio Slofacia, Lloegr a Rwsia yn y gystadleuaeth.

Dim ond 21,000 o docynnau sydd wedi cael eu dosbarthu gan UEFA i’r Cymry ar gyfer y tair gêm, er bod 52,000 o geisiadau wedi cael eu cyflwyno.

Cyfle am fwy?

Cafodd rhai cefnogwyr eu cythruddo ar ôl methu â chael tocynnau am wahanol resymau er eu bod wedi mynychu’r rhan fwyaf o gemau.

Ond yn ôl Paul Corkery o gymdeithas cefnogwyr FSF Cymru, mae’n bosib y gallen nhw fod mewn lwc os yw CBDC yn derbyn tocynnau ychwanegol.

“Maen nhw [swyddfa docynnau CBDC] yn mynd i gysylltu â UEFA, mae ganddyn nhw restr o bobl sydd wedi methu mas,” meddai Paul Corkery wrth golwg360.

“Os nad oedd gan rywun lawr o bwyntiau ffyddlondeb maen nhw’n gwastraffu’u hamser [yn apelio], ond os ydyn nhw’n credu bod ganddyn nhw achos, bod cerdyn credyd heb weithio neu beth bynnag, fe ddylen nhw gysylltu â CBDC.

“Mae Gogledd Iwerddon a Gwlad Belg wedi cael rhai ychwanegol oherwydd camgymeriadau, felly mae dal gobaith. Maen nhw’n gobeithio cael mwy erbyn mis Mawrth.”

‘System deg ar y cyfan’

Fe gyfaddefodd y gallai CBDC fod wedi esbonio’r system ‘pwyntiau ffyddlondeb’ yn well, gyda llawer o gefnogwyr ddim yn ymwybodol o sut fyddai tocynnau’n cael eu dosbarthu nes i’r ceisiadau gael eu hanfon.

Ond ar y cyfan mae Paul Corkery yn credu bod y gymdeithas wedi mynd ati yn y ffordd iawn, a bod y rhan fwyaf o’r bobl oedd yn haeddu tocynnau wedi cael rhai.

“Dw i ddim yn nabod unrhyw un sydd â mwy nag 20 pwynt [ffyddlondeb] gafodd ddim tocynnau. Mae lot o straeon trueni yn mynd rownd, a dyw hanner ohonyn nhw heb fod i hanner y gemau,” meddai.

“Os nad oedd pobl wedi rhoi’r pwyntiau ar eu cyfrifon nhw pan oedden nhw’n mynd i gemau, dyw e ddim yn mynd i ddangos lan.”

Stori: Iolo Cheung