Mae Huw Webber yn byw yn nhalaith Colorado yn yr Unol Daleithiau, ac yn hanu o deulu o Gymry fudodd i Scranton, Pennsylvania yn y 1830au. Yma, wrth edrych ar hanes ei hynafiaid, mae’n trafod y gwersi y gall y Gymru gyfoes eu dysgu o’r gorffennol.
Mae’n anhygoel sut rydyn ni weithiau’n anghofio am rannau hanfodol o’n hanes fel cenedl. Wrth i mi astudio ar gyfer gradd Meistr mewn hanes er mwyn paratoi at ail yrfa y des i ar draws Wales in America (Gwasg Prifysgol Cymru, 1996) gan yr Athro Bill Jones. Roedd y llyfr hwn yn agoriad llygad, ac fe’i harweiniodd fi i ysgrifennu dau bapur ymchwil, gan dyrchu i ganol adnoddau cynradd oedd yn gyfoethog o fanylion oedd yn taro tant am obeithion ac ofnau’r Cymry benderfynodd adael Cymru am fywyd gwell yn America. Ar yr un pryd, aethon nhw â’r freuddwyd o sefydlu Cymru newydd gyda nhw.
Dechreuodd fy nhaith innau wrth i fi ddod o hyd i gyfeiriad at un o’m cyndeidiau, John Levi, yng ngwaith Jones. Roeddwn i wedi pendroni erioed pam na chafodd tad fy nhad-cu ei eni yn America, ac roedd y cliw gan Jones wedi fy rhoi ar ben ffordd i geisio darganfod yr ateb. Roedd John, tad-cu fy nhad-cu, yn un o bump o frodyr ac roedd pedwar ohonyn nhw wedi mudo o Ystradgynlais i Scranton, Pennsylvania yn eu tro, yn ystod y 1830au a’r 1840au.
Arhosodd un o’r brodyr, Thomas Levi, yr oedd ei rieni wedi mudo hyd yn oed erbyn 1848. Arhosodd Thomas yng Nghymru gan ddod yn barchedig ac yn ysgolhaig oedd wedi golygu Trysorfa Y Plant ac a wnaeth ymgyrchu dros ddatgysylltu’r Eglwys yng Nghymru. Fe fu’n arsylwi’r gymuned Gymreig yn America yn 1867 ac 1872, gan ysgrifennu am y profiad yn ei ddyddiadur a chynnwys cofnod o ymweliad byr â’r Arlywydd Andrew Johnson.
Y Cymry’n mudo
Roedd angen doniau’r Cymry ar Americaniaid er mwyn goleuo ffwrneisi gweithfeydd haearn Scranton. Yn ôl Jones, roedd y teulu yn Scranton wedi ceisio ddwywaith i ddefnyddio glo carreg at y diben yma. Dim ond trwy ddefnyddio doniau o Gymru y gwnaethon nhw lwyddo yn 1842. I’r Cymry, roedd yn ddamwain ddaearegol ffodus eu bod nhw’n gwybod sut i gaffael a defnyddio glo carreg a’u bod nhw’n dod o gymdeithas oedd yn cael ei diwydiannu’n gyflym dros ben – yn llawer cynt nag America.
Efallai i’r teulu yn Scranton, daeth defnyddio doniau o Gymru’n swynbeth. Fe wnaeth y Cymry roi trefn arnyn nhw eu hunain yn gyflym. Yn ôl Jones, fe wnaethon nhw ddatblygu system o gyflogi pobol Gymreig, annog teuluoedd i fudo ac ymuno â nhw mewn cymdeithas lle’r oedd rhannau o Scranton wedi dod yn “Gymru fach”.
Wrth i’r Cymry fudo, fe wnaethon nhw adeiladu capeli, sefydlu papurau newydd, addysgu eu plant gan ddefnyddio’r Ysgol Sul, a threfnu eisteddfodau a chymanfaoedd yn Scranton. Fe wnaethon nhw sefydlu rhwydweithiau busnes – Cymdeithas Athronyddol Gymreig – sy’n atgoffa rhywun o LinkedIn heddiw. Bu’r Gymdeithas yn trafod papurau ar ddaeareg a mater rheoli pyllau glo, gan ddyrchafu pobol Gymreig i swyddi o awdurdod o fewn y diwydiant. Roedd y Cymry mor llwyddiannus wrth fonopoleiddio swyddi rheoli o fewn y pyllau glo fel eu bod nnhw wedi dod yn enwog am nepotiaeth ethnig (â defnyddio ymadrodd atgofus yr hanesydd Ronald Lewis). Roedden nhw’n gyfforddus â hierarchiaeth ethnig, lle byddai’r Cymry’n rheoli’r pyllau glo fel swyddogion corfforaethol neu reolwyr gweithredol, ac roedd y rhan fwyaf o’r Cymry eraill yn cael eu hystyried yn lowyr. Roedd hyn yn golygu bod pobol o wahanol genhedloedd, ac yn fwyaf nodedig y Gwyddelod, yn llafurwyr israddol oedd yn gwneud y gwaith diflas megis llwytho’r gwagenni glo, tra bod y Cymry wedi treulio llawer llai o amser ar waith crefftus megis torri glo allan o’r haenau. Y canlyniad oedd anghydfod bach rhwng glowyr Cymraeg a llafurwyr Gwyddeleg ddaeth i ben gydag atgyfodi trais Molly Maguire yn y 1870au – yn Scranton, wedi’i anelu’n bennaf at y Cymry.
Dw i ddim yn dweud bod pob Cymro’n ddyn busnes pengaled, gan fod rhai wedi’u ffieiddio gan yr amodau gwaith a’r gwahaniaethu ar sail ethnigrwydd o fewn y pyllau. Yn 1871, fe wnaeth y gweithlu Cymreig wfftio’u rheolwyr Cymreig ceidwadol drwy bleidleisio o blaid “streic Gymreig”, gan brotestio yn erbyn amodau (yn enwedig diogelwch yn wynebu trychineb Avondale). Roedd yr undod yma ymhlith y Cymry wrth ymestyn y streic dros dro wedi codi gwrychyn brodorion yn y wasg – roedd y Cymry’n “ele twyllodrus” yr oedd eu cyfeillgarwch “wedi troi allan i fod yn gelwydd”. Doedd hi ddim yn ddamwain fod yr Americaniaid wedi defnyddio rhaniadau ethnig er mwyn torri’r streic â llafurwyr Gwyddelig ac Almaenig.
Yr ysfa i fod yn gymuned Gymreig
Efallai mai’r elfen fwyaf cyffrous yn y gymuned hon oedd yr ysfa i fod yn gymuned Gymreig, a’r hyn roedd hyn yn ei awgrymu o ran dosbarth. Dyma gyfnod pan oedd agweddau’r Saeson tuag at y Cymry wedi arwain at Frad y Llyfrau Gleision. Fe wnaeth yr adroddiad seneddol drwg-enwog yn 1847 danio’r Cymry drwy feirniadu’r iaith a moesau pobol oedd yn ei siarad hi – gan helpu i greu hunaniaeth Anghydffurfiol Gymreig. Fe wnaeth yr adroddiad ladd ar y Gymraeg fel iaith oedd yn mynd am yn ôl ac yn anghydnaws â datblygiadau diwydiannol. Fe awgrymodd na fyddai’r Cymry fyth yn dod yn oruchwylwyr nac yn rheolwyr (gan awgrymu bod gwahaniaethu ar waith o fewn diwydiant yng Nghymru). Felly, efallai na ddylai fod yn syndod fod y Cymry oedd wedi mudo i America eisiau profi bod y fath agweddau’n anghywir.
Cymhathu a cholli’r iaith
Ond ar adeg y streic Gymreig, roedd Americaniaid yn croesawu’r Cymry a doedd dim diffyg ymddiriedaeth rhyngddyn nhw fel yr oedd nifer yn dangos diffyg ymddiriedaeth tuag at y Gwyddelod yn sgil eu hiaith a’u Pabyddiaeth. Fe wnaeth arferion anarferol y Cymry – gan gynnwys ymrysonau canu a barddoni – wedi ennyn edmygedd yn hytrach nag anniddigrwydd a senoffobia llwyr. Nid yn unig roedd agwedd y Cymry at eu gwaith, eu proffesiynoldeb, eu Protestaniaeth a’u hymrwymiad i addysg (yn Gymraeg a Saesneg) trwy’r Ysgolion Sul yn diffinio’r ddelwedd gyhoeddus o’r Cymry ym meddyliau’r Americaniaid, ond fe arweiniodd at groeso i’r Cymry. Dros gyfnod o amser, daeth y sefydliadau hyn yn fecanwaith eironig ar gyfer cymhathu’r Cymry a cholli’r iaith. Daeth Eisteddfodau a Chymanfaoedd yn ddigwyddiadau mawr yn y ddinas, ac felly’n llai Cymraeg. Byddai Cymry ail a thrydedd cenhedlaeth yn siarad Saesneg (diolch i’w Hysgolion Sul ardderchog) yn amlach na Chymraeg, ac fe wnaethon nhw ddechrau dathlu eu crefydd gan ddefnyddio’r iaith fain wrth sefydlu eu capeli. Yn anochel, bu rhai Cymry’n protestio yn erbyn ceidwadaeth gymdeithasol eu hynafiaid, gan gymryd rhan mewn campau (megis pêl-fas) neu gefnu ar y cyfan ac ymgyfarwyddo â’r saloons Cymreig niferus. Daeth y rhan fwyaf yn ddinasyddion Americanaidd naturiol, ac felly’n Gymry Americanaidd. Dychwelodd lleiafrif bach adref.
Beth ddigwyddodd i’r brodyr?
Wrth edrych yn frysiog ar dynged brodyr tad-cu fy nhad-cu, cawn ddarlun o’r canlyniadau posib niferus i’r Cymry yn Scranton. Dechreuodd pob un ohonyn nhw fel glowyr neu weithwyr haearn. Mudodd yr hynaf ohonyn nhw, Dafydd, yn y 1830au gan ddod yn weithredwr pwll glo ac yna’n bostfeistr (swydd wleidyddol iawn) erbyn iddo farw yn 1869. Dechreuodd John fel glöwr pan gyrhaeddodd e yn 1842, ac fe ddaeth yn fasnachwr llwyddiannus oedd yn cefnogi glowyr yn ystod y streic Gymreig. Roedd yn henadur ar y pumed ward (Hyde Park), ac roedd e ynghlwm wrth ariannu Baner America. Bu farw o ganlyniad i wallgofrwydd yn 1883, o bosib yn sgil mynd yn fethdal yn 1871 o ganlyniad i gefnogi’r glowyr.
Daeth Joseph yn feddyg ar ôl cychwyn fel glöwr, ac fe fu farw yn 1876 yn Tennessee.
Dechreuodd Richard fel mowldiwr yn Ynyscedwyn cyn dod yn löwr yn America. Bu farw yn 1864 o ganlyniad i niwmonia yn New Mexico fel aelod o undeb, y 1st California Cavalry, ac mae’n debygol ei fod e wedi chwarae rhan yng nglanhau ethnig brodorion America. Bu Richard yn rhedeg bar yn ystod rhuthr am aur yn California yn 1859, ac mae’n debyg mai fe oedd “dafad ddu” y teulu. Fel dw i’n nodi uchod, arhosodd Thomas yng Nghymru gan ddod yn enwog yn ei hawl ei hun fel seren lenyddol ac fel tad i academydd oedd wedi sefydlu Adran y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Os oes gwers i’w dysgu o’r hanes yma, y wers honno yw fod y Cymry wedi dod o hyd i ffordd o greu cymdeithasau fu’n ffynnu am gyfnod – yn economaidd, yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol – cyn iddyn nhw ddioddef yn sgil grymoedd cymhathol y gymdeithas oedd wedi eu derbyn nhw. Dydy hi hwnt nac yma nac acw eu bod nhw wedi cymhathu – fe wnaeth pob ethnigrwydd mudol arall hynny i raddau amrywiol. Y pwynt hanfodol yw fod y Cymry hyn yn drefnus ac, i raddau, wedi siapio’u tynged eu hunain, gan astudio cloddio a rheoli pyllau glo, gan lwyddo i greu eu llywodraethiant eu hunain, oedd yn amhosib (ac nad oedd modd ei ddychmygu) o fewn y wladwriaeth Seisnig.
Dylai’r wers fod yn amlwg: dychmygwch y Cymry’n dysgu ac yn trefnu eu hunain er mwyn creu’r amodau i Gymry lewyrchu yn eu gwlad eu hunain. Does dim angen y Deyrnas Unedig, a does dim angen gofyn caniatâd chwaith.